Cofnodion:
Ystyriodd y Cabinet gymeradwyo’r Polisi Iechyd Meddwl a Chanllaw Rheolwyr ar gyfer cyflogeion y Cyngor. Roedd gan y polisi chwe nod clir, gan gynnwys creu a chynnal amgylchedd a diwylliant gweithle sy’n cydnabod ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant ac yn atal gwahaniaethu. Ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu Polisi, Adolygu a Pherfformiad, gwnaethpwyd nifer o newidiadau cadarnhaol, gan gynnwys diwygiadau i nodau’r polisi i gynnwys rheoli straen yn y gweithle a sicrhau cysylltiadau clir â Pholisi Rheoli Straen y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo mabwysiadu Polisi Iechyd Meddwl a Chanllaw Rheolwyr (Atodiadau A a B i’r adroddiad)
2. y caiff ei gyhoeddi i bob cyflogai mewn fformat priodol ar gyfryngau perthnasol.
3. y cyflwynir prif egwyddorion y polisi i Aelodau a bod Swyddogion yn dilyn i fyny gyda'r CLLLC o ran datblygu aelodau.
Dogfennau ategol: