Eitem Agenda

Ariannu'r Gyfnewidfa Fysiau Newydd

Penderfyniad:

Appendices 2, 3, 4, 5, and 6 of this report are exempt from publication because they contain information of the kind described in paragraphs 14 and 21 of parts 4 and 5 of Schedule 12A to the Local Government Act 1972.

 

 

RESOLVED: that

 

(1)   the developer be allowed to maximise capital receipts for the commercial floor space within the Bus Interchange development by allowing end use to be driven by market demand. 

 

(2)   authority be delegated to the Director of Economic Development in consultation with the Cabinet Member for Investment & Development and the Cabinet Member for Finance, Modernisation and Performance, the Section 151 Officer and the Monitoring Officer to:

 

(i)      Negotiate and conclude a final agreement with the developer subject to the financial envelope outlined in Appendix 3 for the delivery of the Bus Interchange project and appropriate external advice.

 

(ii)     Settle outstanding design, planning and site preparation costs as outlined in Confidential Appendix 2 subject to independent verification of costs.

 

(iii)    Acquire the Saunders Road Car Park site owned by Network Rail to complete the land assembly as outlined in this report, subject to independent valuation.

 

(3)        budget be brought forward from the approved 2018/19 Capital programme into 2017/18 budget to meet the pre planning and land assembly costs outlined in the report.

 

Cofnodion:

Ni fydd Atodiadau 2, 3, 4, 5 na 6 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet ddiweddariad ar ddarparu’r gyfnewidfa fysiau newydd. Ceisiwyd cytundeb mewn egwyddor i strategaeth cyllido ddiwygiedig yn dilyn y datblygwr yn cyflwyno cynni g i ddarparu'r gyfnewidfa fysiau yn seiliedig ar ateb a yrrir gan y farchnad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)        y caniateir i’r datblygwr fwyafu derbyniadau cyfalaf ar gyfer y gofod llawr masnachol o fewn datblygiad y gyfnewidfa fysiau trwy ganiatáu i ddefnydd terfynol gael ei yrru gan alw’r farchnad.    

 

(2)        y caiff awdurdod ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Datblygiad  Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:

 

 (i)     Negodi a dod â chytundeb terfynol gyda’r datblygiad i ben, yn amodol ar yr amlen ariannol a amlinellir yn Atodiad 3 er mwyn cyflawni project y Cyfnewidfa Bysiau a chyngor allanol priodol.

 

 (ii)     Talu costau dylunio, cynllunio a pharatoi’r safle sy’n ddyledus fel yr amlinellir yn Atodiad Cyfrinachol 2, yn amodol ar wirio costau'n annibynnol.

 

 (iii)    Caffael safle Maes Parcio Saunders Road a berchnogir gan Network Rail er mwyn cwblhau cydosod y tir fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, yn amodol ar arfarniad annibynnol.

 

(3)        y deuir â’r gyllideb ymlaen o’r rhaglen gyfalaf 2018/19 gymeradwy i mewn i gyllideb 2017/18 er mwyn talu’r costau cyn cynllunio a chydosod y tir a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: