Cofnodion:
Derbyniwyd adroddiad sy’n amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Caerdydd wrth ddatblygu’r ystâd addysg.Nododd yr adroddiad anghenion digonedd poblogaeth yr ysgol, cyflwr ac addasrwydd yr ystâd ysgol a'r twf a ragwelir yn narpariaeth addysg o ganlyniad i'r Cynllun Datblygu Lleol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai’r materion digonedd, addasrwydd a chyflwr yn ffurfiol sail ceisiadau am gyllid dan ‘Fand B’ CLLLC Llywodraeth Cymru a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Awdurdodau Lleol.
PENDERFYNWYD: nodi'r materion a amlinellir yn yr adroddiad ac y byddai adroddiadau pellach ar gyfer penderfyniad canlyniadol yn y meysydd canlynol:
· Cynlluniau arfaethedig ar gyfer Caerdydd dan gam Band B rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif yng ngoleuni dyraniadau cyllideb gan Lywodraeth Cymru.
· Cynigion ar gyfer addasu a gwella darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd.
Dogfennau ategol: