Eitem Agenda

Adroddiad Grŵp Gorchwyl Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

I roi i'r Pwyllgor yr adroddiad gan y Gr?p Gorchwyl FGM diweddar i'w gymeradwyo i'w gyflwyno i'r Cabinet.

 

(a)  Martyn Hutchings – Prif Swyddog Craffu, yn cyflwyno adroddiad yn fyr; ac 

 

(b)  Cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Bydd y ffordd ymlaen ar gyfer yr eitem hon yn cael ei ystyried ar ddiwedd y.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr Ymchwiliad Gorchwyl a Gorffen i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

 

Nododd Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Dianne Rees, ganfyddiadau’r adroddiad.

 

Nid oedd Caerdydd yn perfformio’n dda iawn wrth adnabod FGM, a’r rhesymau dros hynny oedd diffyg data. Roedd hyn yn broblem cenedlaethol oedd yn cael ei drafod ar hyn o bryd.  Roedd cyllid hefyd yn broblem, a gobeithir y byddai'r cyllid yn parhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y materion meddygol cymhleth oedd yn ymwneud â FGM a’r effeithiau seicolegol.  Roedd addysgu benywod mewn cymunedau’n hanfodol er mwyn mynd ar ôl y mater ac amlygu’r pryderon i bob cymuned.  Roedd rhannu data’n hanfodol i gefnogi cynnydd ac i rannu’r neges na fyddai hyn yn cael ei oddef.

 

PENDERFYNWYD:CYTUNODD y Pwyllgor ar yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Cabinet.

Dogfennau ategol: