English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi i'r Pwyllgor gyfle i adolygu'r Adroddiad drafft y Cabinet yn nodi'r Gymraeg yn Strategaeth Addysg ar gyfer Caerdydd 2017-2020.

 

(a)  Y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) fod yn bresennol, ac efallai yn dymuno gwneud datganiad;

 

(b)  Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a fydd yn cyflwyno'r adroddiad a bod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr aelodau; ac

 

(c)   Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

 

Bydd y ffordd ymlaen ar gyfer yr eitem hon yn cael ei ystyried ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr adroddiad gyfle i’r Pwyllgor adolygu a gwerthuso’r adroddiad cabinet drafft ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020, a oedd yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.  Gwnaethpwyd mân-ddiwygiadau pellach i’r Strategaeth a fyddai’n cael eu trafod yn ystod y cyfarfod.  Byddai’r Strategaeth, ac unrhyw sylwadau'r Pwyllgor, yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 16 Mawrth 2017.

 

Bydd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad.

 

Eglurodd y Cynghorydd Merry y byddai Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd Caerdydd yn trafod y cyfnod 2017-2020. Roedd Cynllun Addysg cyfrwng-Cymraeg Llywodraeth Cymru wedi ategu at y cynllun, ynghyd â datganiadau polisi a strategaeth drafft Llywodraeth Cymru.  Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Rhoddodd Nick Batchelor wybod mai nod y strategaeth oedd ategu at y Fforwm Addysgu Cymraeg a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.  Roedd gan Fframwaith Llywodraeth Cymru yr un blaenoriaethau â'r Cyngor.  Roedd hwn yn ymrwymiad dinas gyfan oedd yn cynnwys cynllunio lleoedd mewn ysgolion.  Byddai gweledigaeth y Cyngor yn datblygu ac yn hyfforddi arweinyddiaeth i’r dyfodol o ran addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Pwyllgor i ofyn cwestiynau.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor braidd yn bryderus bod llawer o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn rhai ardaloedd o Gaerdydd yn mynychu ysgolion cynradd, ac y byddai gorfodi’r iaith Gymraeg ychydig yn anodd i'w weithredu.  

 

Nododd y Swyddogion bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo, ond ei bod yn cael ei gydnabod yn her.  Roedd Caerdydd yn cael ei chydnabod yn lle amlieithog oherwydd ei hystod o ieithoedd mewn ysgolion a'r ffordd yr oedd hyn yn cael ei weithredu i gefnogi'r holl ieithoedd.

 

Bu i’r Pwyllgor gydnabod y cynnydd yr oedd Caerdydd wedi’i wneud, gan ofyn a oedd Uned Trochi Cymraeg yn cael ei sefydlu.  Roedd Unedau Trochi Saesneg yn cefnogi plant oedd yn dysgu Saesneg mewn ysgolion ar hyn o bryd, a byddai sefydlu Uned Trochi Cymraeg yn cefnogi ac yn gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod am y defnydd effeithiol o unedau trochi, a sut roedd hyn yn cefnogi datblygiad plentyn.  Cydnabuwyd hefyd bod canran sylweddol o blant yn dewis siarad Saesneg gartref yn hytrach na Chymraeg.  Roedd galw mawr am Unedau Trochi gan fod y rhain yn cael eu hystyried yn bethau cost-effeithiol.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor o’r farn nad oedd plant sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd yn defnyddio’r iaith llawer yn yr ysgol uwchradd na’n hwyrach ymlaen mewn bywyd.  Roedd defnyddio’r Gymraeg ar ôl ysgol yn hanfodol i gefnogi’r agenda hwn a gwella niferoedd y siaradwyr Cymraeg.

 

Trafododd y Pwyllgor y dull o ddysgu Cymraeg.  Roedd clybiau ar ôl ysgol a darpariaethau allanol yn cefnogi’r iaith yn ychwanegu gwerth i’r cynnydd.  Roedd ychydig o bryder hefyd ynghylch niferoedd y disgyblion yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg gan nad oedd rhai ysgolion, er enghraifft Bro Edern, wedi cyrraedd eu capasiti’n llawn.

 

Eglurodd y Swyddogion bod presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gyson gydag ysgolion eraill.  Roedd grwpiau blwyddyn uwch yn llenwi ac roedd y Cyngor yn hyderus y byddai’r ysgolion yn llawn.

 

Cyfeiriwyd y Pwyllgor tuag at “Deilliant 7 – Cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus:

 

  • Swyddi Arwain
  • Ymarferwyr Addysgu
  • Ymgysylltiad Myfyrwyr

 

Datblygwyd y Deilliant i ddenu addysgu cyfrwng Cymraeg.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod elfennau ar y cyllid pellach i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg wedi’i drafod.  Fodd bynnag, nodwyd bod cefnogaeth o ran addysgu’n ymwneud â Mathemateg hefyd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.                                                                 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.