English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Briff llafar ar yr Ymchwiliadau Trydanol mewn Ysgolion

  1. Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet - Addysg) yn gwneud datganiad.
  2. Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr – Addysg) yn rhoi briff ar lafar i’r Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod i roi diweddariad i’r Aelodau ar lafar ar y materion cynnal a chadw diweddar mewn tair Ysgol Uwchradd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad a dywedodd y penderfynwyd y caiff yr ysgolion eu hadolygu o ganlyniad i broblemau yn Ysgol Uwchradd Cantonian.   O ganlyniad i'r adolygiadau hynny, caewyd Ysgol Uwchradd Willows a Choleg Cymunedol Llanfihangel er mwyn gwneud gwaith.

 

Dychwelodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Willows i’r ysgol heddiw.   Disgwyliwyd i Goleg Cymunedol Llanfihangel gau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon mewn unrhyw achos.   

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:

 

  • Holodd yr Aelodau pam nad yw’r gwaith wedi’i wneud yn ystod y gwyliau a dywedwyd wrthynt, ar ôl cael ail farn mewn perthynas â phob ysgol, fod yn rhaid cau'r ysgolion.  Dywedodd yr Aelodau hefyd fod angen bod mwy o eglurhad ar gyfrifoldebau ar gyfer gwaith cynnal a chadw rhwng y landlord a'r tenant.

 

  • Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sgyrsiau gyda rhieni wedi bod, bod eu pryderon wedi'u lleisio a bod y ddwy ysgol yn blaenoriaethu disgyblion Blwyddyn 10/11. 

 

  • Holodd yr Aelodau am gostau’r gwaith wedi’i wneud a dywedwyd wrthynt nad oes modd adennill y costau trwy yswiriant a bod angen cyllidebau ar eu cyfer.   

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r swyddogion perthnasol ar ran y Pwyllgor yn diolch iddynt am fynychu’r cyfarfod ar 13 Chwefror ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.