Croesawodd y Cadeirydd Hannah Woodhouse (Rheolwr Gyfarwyddwr,
Consortiwm Canolbarth y De), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a
Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.
Yn
gyntaf ymddiheurodd Hannah Woodhouse ar ran y Cynghorydd Huw David,
Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth
y De ac yna cyflwynodd y papur trafodaeth ar godi safonau yn
Ysgolion Caerdydd.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Roedd pryderon gan yr Aelodau i nodi nad oes gwybodaeth yn yr
adroddiad mewn perthynas â phobl nad ydynt mewn addysg,
hyfforddiant neu gyflogaeth a dywedwyd wrthynt fod ffocws wedi bod
ar bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth wrth
drafod gydag ysgolion uwchradd ac mae Ymgynghorwyd Her wedi bod yn
trafod darpariaeth amgen gyda Phenaethiaid. Fodd
bynnag, derbyniwyd nad oedd y wybodaeth hon yn yr adroddiad
wedi’i roi i’r Pwyllgor hwn.
- Ar ôl cwestiwn gan yr Aelodau dywedodd Ms Woodhouse nad
yw adnoddau wedi'u torri ar gyfer Woodlands, ysgol gyda mesurau
arbennig ar hyn o bryd a dywedwyd bod yr Ymgynghorwyr Her yn
gweithio gyda'r ysgol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr mai
mater o effeithlonrwydd yw e ac nid mater o
adnodd. Mae angen arbenigedd arbenigol ar Ymgynghorwyr Her.
Mae gwaith wedi bod ar y gweill i ddiwygio’r
cwricwlwm.
- Holodd yr Aelodau a yw arweinyddiaeth wael yn cael ei thargedu
gan y Consortiwm a dywedwyd wrthynt fod rhaglenni wedi'u creu'n
arbennig ar gyfer Penaethiaid newydd a'r rhai hynny sydd wedi bod
yn Benaethiaid ers peth amser.
Mae proses categoreiddio
sy'n nodi ysgolion lle bo arweinyddiaeth a llywodraethu'r achos
pryder. MAe cymorth hefyd ar gael gan
Benaethiaid eraill. Dywedodd y
Cyfarwyddwr fod y Consortiwm wedi cael effaith mwy sylweddol mewn
ysgolion cynradd; mae rhesymau dros hynny - pwll llai o ysgolion;
mae Challenge Cymru wedi bod yn cymryd
rhan fwy yn y gwaith; mae adrodd yn well; ac mae recriwtio wedi bod
yn fater ond nid oes angen i'r Consortiwm fod yn fwy actif mewn
ysgolion uwchradd.
- Cyfeiriodd yr Aelodau at y wybodaeth a roddwyd mewn perthynas
â chanlyniadau categoreiddio diweddar a gofynnon nhw am
eglurhad o ran sut gallan nhw fod yn si?r bod yr holl asesiadau'n
cael eu cwblhau'n gyson.
Dywedodd y Rheolwr
Gyfarwyddwr ei bod yn ystyried yr asesiadau. Weithiau gellir darllen canlyniadau mewn ffordd wahanol, mae
elfen ddynol. Dylid nodi nad oes categoreiddio
rhanbarthol.
- Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod wedi herio'r Consortiwm ar
wybodaeth a roddwyd er enghraifft:
arian a werir ar staffio; addasrwydd Ymgynghorwyr Her;
effeithlonrwydd rhywfaint o’r datblygu; a faint maent
wedi’u hymwreiddio a’u halinio gyda rhannau eraill yr
awdurdod.
- Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr Ymgynghorwyr Her yn weithwyr
proffesiynol medrus iawn, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi
cael profiadau o arwain.
Mae’n bwysig bod y
bobl gywir yn cael eu recriwtio, eu bod yn cydweithio, a bod
hyfforddiant o ansawdd ar gael. O ganlyniad i gyfyngiadau ar y gyllideb, mae
anawsterau o hyd o ran recriwtio ar gyfer ysgolion
uwchradd.
- Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am faint o Benaethiaid neu
Uwch Arweinwyr wedi’u gwahardd ar gyflog llawn ar hyn o
bryd. Dywedodd Swyddogion nad yw gwybodaeth ar
gael ar hyn o bryd. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr
awdurdod yn rhoi cymorth AD a bod y Consortiwm yn chwarae rôl
wrth froceru unrhyw arweinyddiaeth dros dro, er enghraifft y
defnydd o Ddirprwy o ysgol arall ac er nad oes gwybodaeth ar gael
am gostau, byddai’n rhaid i unrhyw arweinyddiaeth ychwanegol
gael ei hariannu hefyd.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn
ysgrifennu at y Consortiwm yn cyfleu arsylwadau'r
Pwyllgor.