Eitem Agenda

Taliadau Uniongyrchol - Adroddiad Cabinet Drafft

Mae’r adroddiad hwn (i ddilyn) yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor adolygu ac asesu’r cynigion am ailgomisiynu gwasanaethau cymorth â Thaliadau Uniongyrchol ynghyd â dirprwyo awdurdod i Swyddogion i bennu pob agwedd ar y broses gaffael hyd at ac yn cynnwys rhoi contractau a phob mater ategol sy’n ymwneud â chaffael.

 

a)    Gwahoddwyd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a'r Dirprwy Arweinydd) a’r Cynghorydd Susan Elsmore (Aelod Cabinet dros Iechyd, Tai a Lles) i’r cyfarfod ac efallai yr hoffent wneud datganiad;

 

b)    Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau;

 

 Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet dros y  Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a’r Dirprwy Arweinydd), Tony Young (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) a Denise Moriarty (Swyddog Arweiniol Cynllunio Strategol) i'r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, ble trafododd y cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â Thaliadau Uniongyrchol, yn benodol mewn perthynas â phlant.

 

Rhoddodd Denise Moriarty gyflwyniad i’r Aelodau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:

 

  • Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch pa feysydd eraill yr oedd Taliadau Uniongyrchol ar gael iddynt, a chawsant wybod nad oedd unrhyw gyfyngiadau; roedd y cod canllawiau yn nodi mai'r bwriad oedd eu galluogi nhw i fodloni eu hanghenion gofal a chymorth. 

 

  • Cafodd yr Aelodau wybod bod Diverse Cymru mewn sefyllfa i gyflwyno tendr.

 

  • Ceisiodd yr aelodau eglurder am y broses her annibynnol, a chawsant wybod y byddai'r broses yn dryloyw ac yn glir yn y contract.

 

  • Cafodd yr aelodau wybod bod y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol werth £700,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. 

 

  • Cafodd yr aelodau wybod bod Cyngor Abertawe yn defnyddio model mewnol ar hyn o bryd, ac mae’r holl Gynghorau eraill yn defnyddio darparwyr allanol.

 

  • Nododd Aelodau bod gwerth am arian a gofalu am yr unigolyn yn bwysig ynghyd â'r pwysigrwydd o allu recriwtio Cynorthwywyr Personol o safon. 

Nododd yr aelodau bod sicrwydd ansawdd.  3 blynedd yw’r cyfnod contract ar hyn o bryd gyda'r opsiwn o ymestyn am 3 blynedd pellach os yw'r darparwr yn cynnig y gwerth gorau, yr ansawdd gwasanaeth gorau a'r cost gorau.

 

  • Nododd yr Aelodau bod y contract presennol yn cynnig dau raddfa ar wahân fesul awr; £10.02 ar gyfer Cynorthwy-ydd Personol a £11.96 ar gyfer Asiantaeth a ni wnaeth y rhain fodloni’r Cyflog Byw Sylfaenol ar hyn o bryd. 

Nododd y Swyddogion fod angen eglurder arno.

 

CYTUNWYD – y bydd Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r swyddogion perthnasol ar ran y Pwyllgor yn diolch iddynt am fynychu’r cyfarfod ar 10 Ionawr ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: