Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion perfformiad yr ysgolion i’r Pwyllgor, yn ogystal â dadansoddiad o’r canlyniadau ar draws grwpiau ethnig a rhyw.
a) Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad;
b) Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) ac Angela Kent (Pennaeth Cyrhaeddiad a Chynhwysiant) yn cyflwyno’r adroddiad a byddant ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau;
c) Bydd penaethiaid yn bresennol yn cynrychioli ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig; a
d) Chwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) ac Angela Kent (Pennaeth Cyflawniad a Chynhwysiant) i’r cyfarfod.
Yn ogystal, croesawodd y Cadeirydd Nic Naish (Pennaeth - Ysgol Gynradd Greenway) a Lorraine Feltstead (Pennaeth – Ysgol Meadowbank) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, a dywedodd hithau yr hoffai ddiolch i’r staff am eu hymdrechion a’u gwaith caled a arweiniodd at y gwelliant dramatig yn y sgoriau.
Cafodd Aelodau drosolwg o’r Perfformiad fel y nodir yn Atodiad A.
Bu i’r ddau Bennaeth ddweud wrth Aelodau eu bod wedi gweld gwelliannau sylweddol dros y 3/4 mlynedd diwethaf; gwelwyd gwelliant sylweddol mewn ysgolion yn y pum mlynedd diwethaf ac mae'r darlun presennol yn galonogol, yn enwedig mewn ysgolion cynradd.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:
Os nad yw hynny’n digwydd, mae angen ei adnabod a’i drafod. Mae’n bwysig bod Llywodraethwyr Ysgol ynghlwm wrth y gwaith a bod strwythurau cefnogaeth da ar waith.
Mewn llawer o ysgolion, arweinyddiaeth yw’r broblem ac nid addysgu.
Nododd y Swyddogion mewn perthynas ag un o’r ysgolion, mae’r arweinyddiaeth wedi parhau’n gyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac y gwnaed gwelliannau a newidiadau sylweddol yn y cyfnod hwnnw. Mae llawer iawn o waith ar ôl i’w wneud, fodd bynnag, gan gyfeirio'n benodol at ymddygiad, mae nifer y gwaharddiadau wedi gostwng yn sylweddol. Mae disgwyl i’r ysgol arall gau ar ddiwedd tymor yr haf ac yna bydd y disgyblion yn pontio i'r ysgol newydd.
Rhoddodd Lorraine Felstead wybod bod Penaethiaid ysgolion arbennig yn ceisio rhoi ymarferiad casglu data ar waith er mwyn ceisio sefydlu pethau er mwyn eu cymharu.
Cafodd yr Aelodau wybod bod y bwlch yn cynyddu yn y cyfnod uwchradd, mae plant gydag anghenion cymhleth yn cael addysg priflif ac mae’n bwysig bod canolfan adnoddau arbenigol yn cael ei datblygu.
Cafodd yr aelodau wybod bod y graffiau yn gallu gorliwio'r gwahaniaethau rhwng yr uwchradd a’r cynradd. Nododd Mr Naish bod angen i'r ysgolion ddarparu profiadau i helpu pobl ifanc i gyflawni eu targedau; nid yw'n ymwneud ag ansawdd yr addysgu yn unig, ond y profiadau y gall yr ysgol eu cynnig.
Dywedodd y Swyddogion y byddai’r Cwricwlwm Newydd yn dod â chyfleoedd a heriau i’r ysgolion a bod rhaid i’r ysgolion fod yn barod am yr heriau. Mae’n rhaglen uchelgeisiol ac rydym wedi derbyn bod angen defnyddio dull cydlynol wrth weithio ar y Cwricwlwm Newydd.
Caiff data alps ei ddefnyddio ar hyn o bryd i fonitro ansawdd y cyflawniad. Mae llawer o ysgolion hefyd yn gweithio mewn partneriaeth i roi mynediad i ddisgyblion at bynciau penodol.
CYTUNWYD – y bydd Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r swyddogion perthnasol ar ran y Pwyllgor yn diolch iddynt am fynychu’r cyfarfod ar 10 Ionawr ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: