Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod
Cabinet, Addysg), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol
Oes) a Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol
Oes) a Hannah Woodhouse, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Addysg
Canolbarth De Cymru i’r cyfarfod.
Dywedwyd wrth Aelodau fod yr adroddiad hwn yn galluogi'r
Pwyllgor i dderbyn briff ar adroddiad Archwilio Estyn Consortiwm
Addysg Canolbarth De Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2016, ynghyd
â chynnydd sy’n cael ei wneud wrth ymateb i
argymhellion yr archwiliad a briff ar gynlluniau’r Consortiwm
ar gyfer y dyfodol ac i ddatblygu system hunan-wella ar gyfer
ysgolion ledled ardal y Consortiwm.
Dywedwyd wrth Aelodau y byddai adroddiad Perfformiad Blynyddol
yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror.
Mae
arolwg o Benaethiaid a Llywodraethwyr wedi’i wneud; 50% ar
gyfer Penaethiaid a 30% ar gyfer Llywodraethwyr oedd y cyfraddau
ymateb.
Dywedwyd wrth Aelodau fod nifer o feysydd cadarnhaol yn y
strategaeth a’r weledigaeth a bod adborth cadarnhaol iawn
wedi’i dderbyn mewn perthynas ag Ymgynghorwyr Her a chysondeb
gwelliannau yn ogystal â sylwadau cadarnhaol yngl?n â
chwmpas a graddfa cymorth ysgol; cafwyd 4 argymell ar gyfer gwaith
pellach a nodwyd yn yr adroddiad.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Bu aelodau’n bryderus fod disgwyliadau Ymgynghorwyr Her
o wybodaeth a hyfforddiant Llywodraethwyr yn uwch na’r
realiti; dywedwyd wrth aelodau fod rhaglen hyfforddi eang ledled
Cymru, a rhywfaint o hyfforddiant ledled y rhanbarth, mae’n
bosibl nad yw hyn yn bodloni anghenion a bod angen hyfforddiant
pwrpasol, dylai Ymgynghorwyr Her adnabod yr angen hwn.
- Trafododd aelodau ddilema gorfod nodi ysgolion sy’n
methu ac a fyddai nodi gormod ohonynt yn adlewyrchu gwaith yr
ymgynghorwyr her. Yn wir, perfformiad Plant Prydau Ysgol
Am Ddim yn ysgolion ymgynghorwyr her yw’r mesur.
- Nododd aelodau’r sylwadau gan yr Athro Reynolds sydd
wedi’u rhyddhau a gofynnon nhw a yw’r consortia yn
cytuno â nhw. Dywedwyd wrth aelodau fod gan yr Athro
Reynolds farn gref iawn ar ansawdd, yn enwedig mewn perthynas
â hyfforddiant cychwynnol athrawon. Nodwyd bod
gwaith gyda phrifysgolion yn bwysig gydag elfen well ar sail
ysgolion gan fod angen canolbwynt cryf ar ansawdd addysgu uchel
mewn ysgolion.
- Gofynnodd aelodau a yw’r 4 consortia yn rhannu
llwyddiant/problemau ac os felly, sut mae’n cael eu tracio
a'u mesur. Dywedwyd wrth aelodau eu bod yn eu rhannu
a’u bod yn cwrdd bob mis a bod pob consortia yn arwain elfen
o waith ar y cyd megis hyfforddiant i ymgynghorwyr her, perfformiad
ôl 16 a Bagloriaeth Cymru.
Ychwanegwyd bod y 4
consortia yn wahanol iawn o ran llywodraethu a threfniadau gan fod
gan bob awdurdod lleol ofynion gwahanol. Ychwanegwyd
y rhennir arfer gorau gan fod ymrwymiad i gynnig system hunan-wella
sy’n agwedd allweddol yn y rhanbarth.
- Nododd aelodau bwysigrwydd cael cysylltiadau cryf gydag AD i
gadw lan gyda newid a nodi perfformiad sy’n gwaethygu.
Dywedodd swyddogion fod gan Benaethiaid yr offer
cywir i’w ddefnyddio fel y mynnont ac â’r p?er
i’w ddefnyddio; mae hefyd yn bwysig y rhoddi cyngor cyson a
chadarn.
- Gofynnodd aelodau a ddisgwylir adroddiad gwaeth ar ôl yr
archwiliad nesaf gan fod yr adroddiad hwn yn dangos gwelliant er
nad yw adroddiad PISA yn dangos gwelliant. Dywedwyd
wrth aelodau fod adroddiad PISA ar sail data Cymru gyfan ac nad oes
modd echdynnu gwybodaeth ranbarthol ohono; byddai pob ysgol wedi
cael ei chanlyniadau ei hun.
Yn y rhanbarth mae Caerdydd
yn gwella gyflymaf, mae mwy i’w neud o ran perfformiad ond
mae angen ymwreiddio prosesau; ni fyddai newid mawr yn y
strategaeth yn helpu nawr.
Ychwanegodd aelodau nad oes
gwelliant wedi bod ers 2006 ac nad yw'r adroddiad yn adlewyrchu
amser.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn
ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu arsylwadau'r Pwyllgor
wrth drafod y ffordd ymlaen.