English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Pwyllgor ar Ymchwiliad Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi i'r Pwyllgor gopi o'r briffio Ymatebion Cabinet ar y gwasanaethau CAMHS fel y darperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

(a) Y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy Arweinydd) wedi cael gwahoddiad i gyflwyno adroddiad y Cabinet;

 

(b) Bydd Tony Young (Cyfanwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) sylwadau ar yr adroddiad a bod ar gael i ateb cwestiynau;

 

(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet ar gyfer Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a’r Dirprwy Arweinydd) a Tony Young (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol) i'r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet a'r Cyfarwyddwr i wneud datganiad.  Dywedodd y Cyfarwyddwr bod cynnydd calonogol o ran yr her a wynebir yn y ddinas a bu cynnydd yn y nifer o blant a atgyfeirir o ganlyniad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:

 

  • Holodd Aelodau o ble'r atgyfeirir y pant; 

Dywedodd Swyddogion eu bod yn ymwybodol o ffynonellau’r atgyfeirio a’r meysydd y cânt eu hatgyfeirio ohonynt.

 

  • Gofynnodd aelodau p’un a wneir ymchwil ai peidio i adnabod ymddygiad o fu'n risg yn flaenorol er mwyn gallu canolbwyntio ar atal.  

Dywedodd Swyddogion bod angen i bawb sy’n gysylltiedig – mewn ysgolion a chymunedau – wneud plant yn ymwybodol o’r peryglon a wynebir yn y ddinas a’r berthynas rhwng eu hymddygiad a’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.  Nid oes un dull; mae’n bwysig bod pobl yn cydnabod ei bod yn bosibl bod nifer o ffactorau yn creu niferoedd uwch o blant sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol.

 

  • Dywedodd Aelodau y dylid cysylltu â’r gymuned ehangach: cwmnïau tacsi; bwytai tecawê; eiddo trwyddedig a lleoliadau yng nghanol y ddinas i ddatblygu strategaethau atal, ond hefyd teimlont y dylai gwestai hefyd fod ar y rhestr hon ac y dylent gynnwys hyn mewn prosesau sefydlu cyflogeion.

Dywedodd Swyddogion bod staff sinemâu a staff gwestau wedi eu briffio.   

 

CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.