Mae'r adroddiad hwn yn rhoi i'r Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd cyfredol ran mynd i'r afael, ac yn adeiladu ar, argymhellion adroddiad yr ymchwiliad y Pwyllgor hwn i CHAD.
(a) Y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a'r Dirprwy Arweinydd wedi cael gwahoddiad i wneud datganiad;
(b) Bydd Tony Young (Cyfanwyddwr, Gwasanaethau Cymedeithasol) cyflwyno adroddiad a bod ar gael i ateb cwestiynau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
Cofnodion:
Bu i’r Cadeirydd groesawu’r Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd a’r Dirprwy Arweinydd), Tony Young (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol), Rosemary Whittle (Pennaeth Gweithrediadau a Chyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol), Eve Williams (Rheolwr Newidiadau Gweithredol Cyfunol yng Nghaerdydd a’r Fro) ac Amy (Rheolwr Tîm yn y Tîm Iechyd ac Anableddau Plant) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad lle bu iddi ganmol y datblygiadau gyda’r cynllun Iechyd Plant ac Anabledd ac yn benodol o ran y Mynegai Anabledd, sef y cylchlythyr a anfonir at rieni i roi newyddion iddynt am yr amryw faterion os yw’r plant ar y Mynegai; a’r ffaith bod y tîm bellach yn Neuadd y Sir gyda thimau eraill Gwasanaethau’r Plant; y pwyslais ar bontio ar gyfer plant anabl a’r newidiadau o ran cymhwyster.
Bu i’r Cyfarwyddwr bwysleisio’r ffaith bod y Cynllun Dyfodol Anableddau wedi rhoi llwyfan ar gyfer trawsnewid y gwasanaethau a ddarperir i blant anabl ac i oedolion ag anghenion dwys a'r ffaith mai'r prif fater arall yw cysondeb o ran gweithredu gan y tîm Iechyd Plant ac Anabledd.
Cyflwynodd Eve Williams yr adroddiad.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:
Rhoddwyd gwybod i Swyddogion bod y Mynegai Anabledd yn cychwyn ac yr anogir rhieni i gofrestru gyda'u plant. Fel rhan o gynllun y gwasanaeth, cynhelir grwpiau ffocws bychain fel man cychwyn. Mae’r cyd-leoli yn Ngh? Gwyn a’r ffaith bod Gweithwyr Cymdeithasol mewn ysgolion wedi helpu i gyfathrebu â theuluoedd. Cafwyd adborth hefyd gan y gofal seibiant yn Nh? Storrie.
Ystyriwyd y byddai’r canrannau’n debyg. Mae modelau eraill o ddulliau cysylltu â theuluoedd ar brawf ac mae symud y Tîm Gofal Plant i D? Gwyn a’r cylchlythyr ill dau’n cyfrannu ond nid ydym yn gwybod beth yw effaith lawn hyn eto. Hyrwyddir agweddau cadarnhaol bod ar y gofrestr.
Wrth sefydlu’r gwasanaeth awtistiaeth cyfunol, cafwyd sgwrs am ddefnyddio un system/un dull gyda mapiau a fyddai’n trafod diagnosis, yr ymyriadau ac yna’r canlyniadau a buasai’r holl wybodaeth i’w chael o un lle.
Rhoddwyd gwybod i’r Swyddogion bod rhestr aros ac y rheolir y galw trwy’r Panel Seibiant. Yna, dyrennir adnoddau. Mae 48 plentyn ar y llwyth achos gofal iechyd parhaus ac mae 30 yn mynd trwy’r tîm Iechyd Plant ac Anabledd ac mae nifer fechan wedi ei nodi fel rhai a fydd yn elwa o'r gwasanaeth pan ddaw lle. Mae posibilrwydd o ehangu gwasanaeth seibiant ac mae’n rhoi’r gallu i rieni gynorthwyo plant yn eu cartrefi am gyfnod hirach. Mae Taliadau Uniongyrchol yn parhau i gynyddu a chant eu defnyddio ar gyfer anghenion unigol ond mae T? Storrie yn cynnig gwasanaeth seibiant i’r plant ag anghenion mwy dwys a heriol a gellir gwneud Taliadau Uniongyrchol am gymorth cymunedol yn ogystal â hynny.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: