English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn eu Harddegau (CAMHS)

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi i'r Pwyllgor sesiwn friffio ar y gwasanaethau CAMHS fel y darperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

(a) Rose Whittle, Pennaeth Gweithrediadau a'r Gyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol Cyflenwi a Dr. Tracy Gardiner, Cyfarwyddwr Clinigol Rhwydwaith CAMHS, yn cyflwyno adroddiad a bod ar gael i ateb cwestiynau;

 

(b) Cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Bu i’r Cadeirydd groesawu Rosemary Whittle, Pennaeth Gweithredu A Darparu yng Nghyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol a Dr Tracy Gardiner, Cyfarwyddwr Clinigol rhwydwaith CAMHS i’r cyfarfod i roi briff a diweddariad am wasanaethau CAMHS fel y’u rhoddwyd gan Wasanaeth Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn benodol yn elfennau canlynol y gwasanaeth hwnnw:

 

  • Gwasanaeth Lles Addysg;
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyntaf (yn cynnwys Mesur Iechyd Meddwl – Rhan 1);
  • Gwasanaeth Niwroddatblygu;
  • CAMHS Eilradd (darparwr Cwm Taf).

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:

 

  • Holodd Aelodau a oedd digon o gymorth gan sefydliadau eraill i ymdrin ag ymyrraeth gynnar a chynorthwyo’r rhai ag anghenion llai dwys a chawsant eu cynghori bod llawer o waith ar y cyd gyda sectorau’r 3ydd sector. 

Fodd bynnag, derbyniwyd bod straen meddwl, gorbryder a tharfu emosiynol ar bobl ifanc yn broblem gynyddol gyda phlant ac mae’n bwysig ymyrryd ar yr amser cywir. Byddai map sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch pwy a pha wasanaeth y dylid cysylltu â nhw.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau y credir mai nifer y plant yn hytrach na’r diffyg yn y gwasanaeth y dylid mynd i’r afael ag e.   Bu pryderon y byddai’r Gwasanaeth Lles Addysg yn cael ei foddi ac mae’n deg dweud bod diffygion posibl yn parhau yn y prosesau atgyfeirio, asesu a chefnogi ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio, trwy ei brosesau cynllunio, adnabod y diffygion hynny a’u bwydo nhw i’r cam cynllunio nesaf.

 

  • Cynghorwyd aelodau bod proses dendro benodol cyn comisiynu Newid, Tyfu, Byw; mae hwn yn sefydliad cenedlaethol sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau a lles emosiynol yng Nghaerdydd.

 

  • Cynghorwyd Aelodau mai nod y Gwasanaeth Lles Addysg oedd ceisio osgoi rhagfarn ac enw drwg trwy adael i blant a phobl ifanc eu hatgyfeirio eu hunain neu adael i ysgolion wneud hynny. 

Yn ogystal, gyda’r Gwasanaeth Lles Addysg, mae polisi nad oes unrhyw ‘ddrwgweithredwr’ oherwydd y gellir trafod y llwybrau/gwasanaethau eraill sydd ar gael.

 

  • Bu i Aelodau fynegi pryder bod y rhif ffôn a roddwyd i gysylltu â’r tîm yn ystod y nos yn galw’r switsfwrdd yn Ysbyty Athrofaol Cymru a holiwyd oni ddylid cael rhif ffôn penodol. 

Cynghorodd swyddogion y gellid cysylltu â’r Tîm Argyfwng trwy'r Ysbyty Athrofaol Cymru petai argyfwng difrifol, fel arall byddai’r Gwasanaeth Lles Addysg yn ceisio cysylltu â’r person ifanc cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, teimlid y dylid trafod hyn ymhellach.

 

  • Rhoddwyd gwybod i Aelodau bod yr arian ychwanegol gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru yn barhaol.

 

  • Holodd Aelodau am y ffigwr o 596 atgyfeiriad i'r Gwasanaeth NDS ers 1 Mehefin a chynghorwyd bod y ffigwr yn gywir.

Yn flaenorol, efallai nad oedd y rhifau’n glir oherwydd yr âi’r atgyfeiriadau’n uniongyrchol at y Meddygon Plant Cymunedol.   Mynegodd aelodau bryderon ynghylch capasiti o ystyried y niferoedd, a rhoddodd swyddogion wybod bod Tîm Iechyd Plant Cymunedol yn cynnig gwasanaeth er mai bychan yw’r tîm.  Mae cymorth cydweithredol yn angenrheidiol.

 

  • Rhoddwyd gwybod i Aelodau ei bod yn glir y dylai’r broses ddiagnosis fod yn fyrrach, ac mae disgwyl y dylid casglu’r holl wybodaeth mewn achos plant, ac y dylai’r wybodaeth fod ar gael ar gyfer yr Ymgynghorydd Allanol ar amser y cyfarfod â’r plant.

 

  • Gofynnodd Aelodau am wybodaeth ynghylch faint o’r 596 atgyfeiriad a fyddai gan Feddygol Teulu a faint fyddai gan ysgolion.

Dywedodd Swyddogion fod rhan fwyaf yr atgyfeiriadau gan y Meddygon Teulu, fodd bynnag, cysylltir ag ysgolion ym mhob achos, waeth o ba le y daw'r atgyfeiriad.  Rhoddwyd gwybod hefyd i swyddogion bod y NDS a’r Cydlynydd PMH yn Ysbyty Dewi Sant ac y gellir cysylltu â nhw bob amser. 

 

CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at Bennaeth Gweithredu a Darparu Cyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol yn diolch iddi am fynychu’r cyfarfod ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.