English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Caffael Safle Tŷ Glas

Mae Atodiadau 3 - 8 o’r adroddiad wedi’u heithrio o gael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio sef y disgrifiad sy’n gynwysedig ym mharagraff 14 o Ran 4 a pharagraff 21 Rhan 6 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 Gall y cyhoedd cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gais y Pwyllgor yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.

 

(Papurau I ddilyn)

 

Galluogi’r Aelodau i graffu cyn penderfynu ar y cynigion Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â chaffael safle yn Nh? Glas.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Melbourne fuddiant personol yn yr eitem hon gan mai hi yw Cynghorydd Ward Llanisien a Draenen Pen-y-graig.  Datganodd Karen Dell'Armi fuddiant personol, fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Llanisien.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Atodiadau 3 – 6 o'r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o'r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 o Ran 4 a pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion (CTY)), a Michele Duddrige-Friedl (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth) i'r cyfarfod.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau mai'r argymhelliad i'r Cabinet fyddi gaffael rhydd-ddaliad tir yn T? Glas Road, Llanisien i ganiatáu i'r Cyngor ddatblygu opsiynau ar gyfer ysgol uwchradd gymunedol brif ffrwd a darpariaeth ysgol arbennig.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·          

Cyfeiriodd yr Aelodau at y dyraniad sy'n cael ei adlewyrchu yn y rhaglen Band C ac a ddylid darparu rhagor o wybodaeth am Fand C.   Dywedodd swyddogion y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyngor gyda'r gost gaffael a dymchwel lawn; bydd y gyfradd ymyrraeth yn cael ei lefelu maes o law.   Dywedwyd wrth yr Aelodau ei fod yn bryniant strategol, mae'r safle'n ddigon mawr.   Nid yw'n bosibl dweud y bydd y safle'n cael ei brynu ar gyfer prosiect penodol ar hyn o bryd. 

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor y dylid eithrio'r cyhoedd o ran y drafodaeth mewn perthynas â'r atodiadau cyfrinachol, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 14, 16 a 21 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl trafod y Ffordd Ymlaen, PENDERFYNODD y Pwyllgor fod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau yn ystod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.