Mae’r Cyngor yn dal i gael ei siomi’n arw gan y problemau gwastraff sy’n parhau’n rheolaidd trwy nifer o wardiau. Nid ydym unrhyw faint yn nes at ddod o hyd i’r safle newydd y mae mawr ei aros yng Ngogledd Caerdydd yn lle Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Heol Wedal ac Waungron Road.
Mae’r Cyngor yn nodi’r egwyddor bod y Cabinet yn gweithredu gyda chyfrifoldeb cyffredin, ond mae’n teimlo bod angen i’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd fod yn atebol dros orychwylio’r methiannau rheolaidd a chyson hyn.
Felly, nid oes gan y Cyngor hwn hyder yn y Cabinet.
Yn ogystal, mae’r Cyngor yn galw ar yr Aelod Cabinet sy’n goruchwylio’r Gwasanaethau Gwastraff i adrodd yn ôl i’r Cyngor Llawn gydag adolygiad ac adroddiad cynnydd ymhen tri mis. Bydd angen iddo roi diweddariad i aelodau ynghylch sut mae’r gwasanaeth wedi gwyrdroi ac sut mae’n gweithio’n effeithiol ac effeithlon dros drigolion Caerdydd.
CYNIGIWYD GAN Y CYNGHORYDD JAYNE COWAN
CADARNHAWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN LANCASTER
Dogfennau ategol: