Eitem Agenda

Adroddiad Blynyddol 2020/2021 yr Awdurdod Lleol ar Wasanaethau Cymdeithasol

Galluogi’r Aelodau i gynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar Adroddiad Blynyddol 2020/2021 yr Awdurdod Lleol ar Wasanaethau Cymdeithasol

 

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol), a Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant) i'r cyfarfod. 

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad ac amlinellodd y wybodaeth a gyflwynwyd yn Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 2020/2021. 

 

Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·       Trafododd yr Aelodau'r dirywiad mewn gwasanaethau cymorth ehangach dros y blynyddoedd diwethaf.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod profiad diweddar wedi dangos yr hyn y gellid ei gyflawni pan oedd unfrydedd ar draws sefydliadau ynghylch yr hyn yr oedd angen ei wneud. 

 

·       Roedd yr Aelodau o'r farn bod angen mwy o ffocws ar atal.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod ymyrraeth cyfnod cynnar yn arwain at lai o angen am ymyrraeth cost uchel i ddelio ag argyfyngau yn ddiweddarach. 

 

·       Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Cyngor Caerdydd wedi darparu mwy o ymyrraeth cyfnod cynnar nag awdurdodau lleol eraill a bod awdurdodau eraill yn cysylltu â Chyngor Caerdydd am gyngor. 

 

·       Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar sut yr oedd y Cyngor yn bwriadu sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd cyflawni nodau ac amcanion y strategaeth a sicrhau monitro effeithiol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai ap Mind of My Own yn caniatáu i'r Gwasanaethau Plant gael barn plant yn uniongyrchol.  Mae adborth yn dangos bod pobl ifanc yn fwy cyfforddus yn defnyddio'r ap nag mewn cyfarfod wyneb yn wyneb.  Byddai'r Fframwaith Cyfranogiad ar flaen y gad o ran sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed.  Mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai comisiynu a chyfiawnder ieuenctid.  Rhoddwyd adnoddau i Weithwyr Stori Bywyd, sy'n gweithio gyda phobl ifanc i'w helpu i ddeall eu taith bywyd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: