English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth Canolfan Adnoddau Arbenigol

(i ddilyn)

 

Galluogi’r Aelodau i graffu cyn penderfynu ar gynigion mewn perthynas â'r achos dros ganolfan adnoddau arbenigol ar draws y ddinas, gan gynnwys darpariaeth newydd yn Ysgol Gynradd Moorland, a cheisio cymeradwyaeth y cabinet i ymgynghori.

 

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Melanie Godfrey (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Michele Duddrige-Friedl (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth), a Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion) i'r cyfarfod. 

 

Datganodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd Joyce fuddiant personol fel cynghorydd ar gyfer Llanrhymni.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a chyfeiriodd at yr adroddiad drafft ar gyfer y Cabinet a'i argymhelliad i fynd i ymgynghoriad ar y cynigion i drosglwyddo, ehangu ac ailddatblygu Ysgol Arbennig The Court a'r bwriad i sefydlu darpariaeth adnoddau dysgu arbenigol yn Ysgol Gynradd Moorland.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y cynnig yngl?n ag Ysgol Arbennig The Court yn un o gyfres o fesurau a gynlluniwyd, a bod gwerth £1.3m o gyllid wedi'i ddyrannu i gyflenwi darpariaeth Dechrau'n Deg.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau wneud sylwadau neu ofyn cwestiynau am y wybodaeth a roddwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·       Roedd yr Aelodau'n pryderu a oedd y cynigion yn ddigonol i fodloni'r twf disgwyliedig mewn angen am ddarpariaeth adnoddau dysgu arbenigol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod yn bwysig deall y sefyllfa o ran angen gan gynnwys dysgu cymhleth, iechyd emosiynol a lles ac mai dim ond man cychwyn oedd y cynnig presennol. 

 

·       Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar gyfanswm costau cyfalaf a refeniw disgwyliedig cynnig The Court ac i ba raddau yr oedd derbyniadau cyfalaf o werthu safle The Court yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad, a'r berthynas ariannol rhwng caffael safle T? Glas a chynnig The Court. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y cynnig yn cael ei ariannu o fewn amlen gyfalaf y rhaglen Band B.  Mae cwmpas y rhaglen wedi newid dros amser ond yr un yw'r fforddiadwyedd.  Does dim perthynas rhwng cynnig The Court a chaffaeliad T? Glas. Mae'r derbyniadau o werthu safle The Court yn bwydo i sefyllfa gyfalaf gyffredinol Band B.

 

·       Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch sut y byddai The Court yn cael ei reoli ar draws dau safle, ac a fyddai'r ystod oedran sylfaenol lawn yn cael ei lletya ar bob safle neu a fyddai'r gwahanol safleoedd yn darparu ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sgyrsiau wedi dechrau gyda'r ysgol a bod angen newidiadau staffio a llywodraethu sy'n gysylltiedig â threfniant y safle hollt.  Ychydig o blant o'r Cyfnod Sylfaen sydd wedi'u cofrestru yn The Court ac er y byddai'r ystod oedran sylfaenol lawn yn bresennol ar y ddau safle, plant o'r blynyddoedd h?n fyddai'n bennaf. Mae'r ddau safle wedi'u lleoli'n ofalus ger ysgolion cynradd felly dylid cael cynhwysiant a manteision da ar draws y Tyllgoed a Phenybryn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau yn ystod y drafodaeth ar y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.