Eitem Agenda

Penodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau

I gyfweld ymgeiswyr a dod I’r casgliad o’r broses ar gyfer penodi swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau

Cofnodion:

Cynullwyd y Pwyllgor i gyfweld dau ymgeisydd a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar 21 Mehefin 2021 ar ôl ystyried canlyniadau'r Ganolfan Asesu. 

 

Fel rhan o'r broses gyfweld, gwahoddwyd yr ymgeiswyr i wneud cyflwyniad 10 munud a rhoddwyd cyfle i'r Aelodau holi pob ymgeisydd am y cyflwyniad.  Dilynwyd hyn gan gwestiynau ffurfiol a dau gwestiwn gorfodol.

 

Ar ddiwedd y broses gyfweld, trafododd y Pwyllgor berfformiad pob ymgeisydd yn erbyn y cymwyseddau a'r ymatebion enghreifftiol. 

 

Cytunodd y Pwyllgor eu bod yn gallu penodi i swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Tai a Chymunedau.

 

PENDERFYNWYD -

 

·         I benodi Helen Evans yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol – Tai a Chymunedau yn unol â'r Radd a'r Cyflog a hysbysebwyd ar gyfer y swydd;

bod y broses ddethol wedi'i chynnal yn unol â'r broses Benodi ac roedd pob ymgeisydd wedi cael ei drin yn gyfartal ac yn deg yn ystod y broses. Penodwyd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ôl teilyngdod.

Dogfennau ategol: