(i ddilyn)
Ystyriedrhestr fer ymgeiswyr ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau ar gyfer Cyfweliad
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor Penodi ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau ei ailgynnull i dderbyn ac ystyried canfyddiadau’r
Ganolfan Asesu.
Roedd gan y Pwyllgor bedwar Adroddiad Asesu i'w hadolygu. Wrth wneud ei benderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor gais gwreiddiol pob ymgeisydd, sut sgoriodd pob ymgeisydd yn erbyn cymwyseddau gofynnol y swydd a’r asesiad ysgrifenedig ar bob un o’r tasgau oedd yn trafod cryfderau a sgiliau’r ymgeisydd. Ystyriodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno dau ymgeisydd am gyfweliad.
Ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau pwnc cyflwyno gan osod cwestiynau ar gyfer y broses gyfweld.
PENDERFYNWYD -
· Gwahodd ymgeiswyr 22915 ac 22957 am gyfweliad;
· rhoi gwybod i’r ymgeiswyr beth fydd testun y cyflwyniad ac y caiff uchafswm o 10 munud ar gyfer hwnnw;
· llunio’r cwestiynau terfynol ar gyfer y pwyllgor cyfweld
Dogfennau ategol: