Cynigiwyd gan y Cynghorydd Saeed Ebrahim
Eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Thomas
Mae'r mis hwn yn nodi 4 blynedd ers trychineb T?r Grenfell pan gollodd 72 o bobl eu bywydau.
Gweithredodd Cyngor Caerdydd yn gyflym i sicrhau bod yr holl adeiladau uchel sy'n eiddo i'r Cyngor yn ddiogel, tra bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithredu i alluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i wneud yr un peth.
Fodd bynnag, mae'r sefyllfa o ran blociau fflatiau uchel sy'n eiddo preifat heb ei datrys o hyd, ac mae'r sgandal cladin hefyd wedi amlygu diffygion eraill sy'n effeithio ar ddatblygiadau fflatiau uchel preifat, gan gynnwys absenoldeb adrannu tân priodol, yn ogystal â mesurau atal tân aneffeithiol eraill, a balconïau anniogel, gyda llawer o adeiladau, gan gynnwys yng Nghaerdydd, yn gofyn am gyfundrefnau gwyliadwriaeth gyson i sicrhau diogelwch preswylwyr mewn achos tân.
Mae cyflwyno ffurflenni EWS1, heb niferoedd digonol o beirianwyr cymwysedig i gynnal archwiliadau, wedi gwaethygu ymhellach y problemau a wynebir gan breswylwyr sy'n byw mewn llety blociau fflatiau uchel.
Mae'n amlwg bod y trefniadau hyn wedi effeithio ar les meddyliol y preswylwyr sydd, heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, yn ansicr a yw eu cartrefi'n ddiogel, gan orfod oedi eu bywydau bob dydd. Maent hefyd yn wynebu effaith ariannol sylweddol, gyda phreswylwyr yn ei chael hi'n anodd cael yswiriant ar gyfer eu heiddo, perchen-feddianwyr yn syrthio i ecwiti negyddol ac yn methu gwerthu eu heiddo, a phreswylwyr yn wynebu'r posibilrwydd o orfod ariannu costau gwneud iawn diffygion i'w heiddo eu hunain, er iddynt brynu eu heiddo gyda phob ewyllys da.
Felly mae’r Cyngor hwn -
Ac
Dogfennau ategol: