Eitem Agenda

Y Ffordd Ymlaen

Adolygu’r dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses o ystyried pob eitem agenda; a chytuno ar sylwadau, arsylwadau a phryderon Aelodau i’w hanfon i’r Aelod Cabinet perthnasol gan y Cadeirydd.

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth a dderbyniwyd gan nodi nifer o broblemau y cytunai’r Cadeirydd fyddai’n cael eu cynnwys yn y llythyrau fyddai’n cael eu hanfon, ar ran y Pwyllgor, at yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion perthnasol.