Derbyn proffil gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar ddelio cyffuriau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghaerdydd cyn y cyfnod cloi Covid-19 cychwynnol ym mis Mawrth 2020 ac fel y mae ar hyn o bryd. Asesu'r mesurau sydd ar waith a rôl y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wrth fynd i'r afael â'r mater a'i atal ynghyd â deall unrhyw heriau cysylltiedig. Yn ystod y cyfarfod, bydd Aelodau'r Pwyllgor yn ymgysylltu â swyddogion o Heddlu De Cymru i ddysgu am y llwybrau gorfodi a'r gweithrediadau sydd ar waith i fynd i'r afael â'r mater ynghyd ag ymgysylltu ag unigolyn a arferai gyflawni gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau er mwyn cael cipolwg ar yr hyn sy’n sbarduno gweithgarwch o'r fath ynghyd â'i safbwynt ar fesurau ataliol. Wrth ystyried y pwnc hwn, bydd y gwaith craffu hwn yn cael ei rannu fel a ganlyn:
Bydd Cyd-Gadeiryddion y Bwrdd Arwain Diogelwch Cymunedol a'r Gr?p Cyflawni yn cael eu cefnogi gan swyddogion o Gyfarwyddiaeth Pobl a Chymunedau’r Cyngor i friffio'r Pwyllgor ar y sefyllfa bresennol a sut y maent yn mynd i'r afael â'r mater ac i ateb unrhyw gwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor.
I'r Aelodau gael cyflwyniad gan swyddogion Heddlu De Cymru yn manylu ar y llwybrau gorfodi a'r gweithrediadau a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r mater hwn. Bydd yr Aelodau hefyd yn cael cyfle i ymgysylltu â'r swyddogion, gan archwilio eu gwybodaeth a'u profiadau uniongyrchol o'r mater hwn.
I Aelodau ymgysylltu ag unigolyn sydd â phrofiad byw o ddelio cyffuriau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Archwilio'r hyn a sbardunodd y bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'u persbectif ar fesurau ataliol.
Rhoi cyfle i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac Aelodau o’r Pwyllgor fyfyrio a gwneud unrhyw sylwadau pellach ar ôl clywed tystiolaeth gan y cyfranogwyr allanol
Dogfennau ategol: