Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Rodney Berman

Eiliwyd gan y Cynghorydd Emma Sandrey

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

a)    Cysyniad y "gymdogaeth 20 munud" neu'r "ddinas 15 munud", a luniwyd gan ddinasoedd fel Melbourne a Paris, sy'n ceisio gwella gallu byw a datblygu cymunedau lleol mwy cynaliadwy drwy gynllunio i breswylwyr allu cyrraedd y rhan fwyaf o'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt bob dydd trwy deithio o'u cartrefi am 15-20 munud ar droed, ar feic neu ar fws;

b)    Bod cysyniad y "gymdogaeth 20 munud" wedi cael ei gefnogi gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ogystal â chan sefydliadau fel Sustrans; a

c)    Bod gan y cysyniad lawer o fanteision o ran yr amgylchedd ac iechyd, yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddatblygu economaidd mwy lleol.

Mae'r Cyngor hwn yn croesawu ac yn cymeradwyo'r ymrwymiad yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-24 i gefnogi'r egwyddor "dinas 15 munud". Er mwyn adeiladu ar yr ymrwymiad hwnnw, fodd bynnag, mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i sicrhau bod yr egwyddor "dinas 15 munud" yn cael ei hymgorffori'n llawn ym mholisïau'r Cyngor yn gyffredinol, gan gynnwys drwy:

1)    Ystyried yn llawn yr egwyddor "dinas 15 munud" ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig y ddinas, fel rhan o'r adolygiad llawn o'r cynllun sydd i'w gynnal erbyn diwedd 2024; a

2)    Adolygu strategaethau trafnidiaeth a datblygu economaidd presennol y Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hategu'n ddigonol gan yr egwyddor "dinas 15 munud".

 

 

 

Dogfennau ategol: