English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynllun Corfforaethol Drafft 2021-2024 a Chynigion Cyllidebol Drafft 2021-2022

Mae Atodiad 9 o’r adroddiad wedi’i eithrio o’i gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad sydd ym mharagraff  14 o Ran 4 a pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Gallai’r cyhoedd fod wedi'i wahardd o'r cyfarfod drwy benderfyniad y Pwyllgor yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 wrth i’r eitem hon gael ei thrafod.

 

Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth

 

(a)

Gwahoddir y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i wneud datganiad byr ar y rhannau o’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy’n berthnasol i’w bortffolio o gyfrifoldeb.

 

(b)

Darparwyd cyflwyniad gan y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd cyn y cyfarfod.  Roedd hyn yn cwmpasu cynigion cyllideb ddrafft y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy’n berthnasol i’r Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.   Bydd y Cadeirydd yn gofyn i’r Pwyllgor a oes unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ganddynt ar gynnwys y cyflwyniad; os codir unrhyw rai gofynnir i swyddogion roi eglurhad.

 

(c)

Bydd y Cynghorydd Caro Wild a swyddogion ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau ar feysydd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd sy’n berthnasol i’r Portffolio Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.

 

Portffolio Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd

 

(a)

Gwahoddir y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan, Ailgylchu a’r Amgylchedd i wneud datganiad byr ar y rhannau o’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd a Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaethau sy’n berthnasol i’w bortffolio o gyfrifoldeb.

 

(b)

Darparwyd cyflwyniadau gan y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd a Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaethau cyn y cyfarfod.  Roedd y rhain yn cwmpasu’r cynigion cyllideb ddrafft sy’n berthnasol i’r Portffolio Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd.  Bydd y Cadeirydd yn gofyn i’r Pwyllgor a oes unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ganddynt ar gynnwys y cyflwyniad; os codir unrhyw rai gofynnir i swyddogion roi eglurhad.

 

(c)

Bydd y Cynghorydd Michael Michael a swyddogion ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau ar feysydd sy’n berthnasol i’r Portffolio Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.