English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Emma Sandrey

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Taylor

 

Dod allan o Argyfwng Covid-19: Cynnig gan y Cynulliad Dinasyddion

 

Noda’r Cyngor y canlynol:

 

–Bod pandemig Covid-19 wedi dangos pa mor ddibynnol rydym ar ein gilydd er mwyn bwrw ymlaen, a beth y gallwn ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd. Mae wedi dangos ein bod i gyd yn gryfach pan fydd ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu cryfaf.

– Mae hefyd wedi dangos pwysigrwydd cydnabod nad oes mynd yn ôl i’r ffordd yr oedd pethau. Rydym yn mynd i gyfnod tyngedfennol; un cyfle sydd gennym i sicrhau newid ystyrlon ar gyfer y nifer fwyaf o bobl yn ein dinas ac ar ein huchelgais a rennir ar gyfer Caerdydd.

–Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni wneud hyn gyda thrigolion Caerdydd ac nid iddynt. Yn rhy aml o lawer, wrth frysio i gyflawni pethau ers mis Mawrth, nid yw pethau’n cael eu gwneud yn iawn, ac mae trigolion yn ogystal ag aelodau’r ward yn cael gwybod am y newidiadau yn hytrach na chael ymgynghori arnynt.

– P’un ai a ydym yn cytuno gyda nodau ac amcanion newidiadau arfaethedig ai peidio, ni all fod yn iawn bod newid yn cael ei weithredu yn y fath ffordd o’r top i lawr, sy’n peryglu cynyddu’r potensial am adlach ar gyfer y rhaid sy’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u digio, yn y pen draw yn bwrw’r ddinas yn ôl o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ac atebion blaengar i broblemau cyn-Covid 19 y ddinas.

– Mae Cynulliadau Dinasyddion yn gorff o ddinasyddion y deuir â nhw ynghyd i bendroni ar faterion o bwys, maent yn defnyddio trawstoriad o’r cyhoedd i astudio opsiynau a chynnig atebion trwy drafodaeth resymegol a rhesymol a thrwy ymchwilio gan arbenigwyr, a’u nod yw ailosod ymddiriedaeth yn y broses wleidyddol trwy gymryd perchnogaeth uniongyrchol o’r broses o wneud penderfyniadau.

- Mae Cynulliadau Dinasyddion yn gynrychiadol ac yn gynhwysol, yn caniatáu mwy o amrywiaeth wybyddol, yn torri ffiniau democratiaeth uniongyrchol ac yn caniatáu trafodaeth.

Mae’r cyngor hwn yn galw am:

Greu Cynulliad Dinasyddion i bendroni a darparu adborth mewn amser real ar strategaeth Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu Caerdydd er mwyn i’r newidiadau arfaethedig a fydd yn effeithio ar bobl yng Nghaerdydd ac o’i chwmpas yn cael eu gwneud gan drawstoriad mwy cynrychioladol ac amrywiol y cyhoedd, gan obeithio y gallwn ailosod ffydd yn ein proses wleidyddol trwy rannu perchnogaeth ar wneud penderfyniadau, a mynd â chymaint o drigolion gyda ni â phosibl wrth i ni symud allan o’r cyfnod cloi, tra ar yr un pryd yn byw o dan gyfyngiadau pandemig byd-eang.

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.