English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Lleoliadau y tu allan i'r Sir – Adroddiad ar yr Ymchwiliad - Papur Briffio ar Gynnydd

Galluogi Aelodau i adolygu ac asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn dilyn argymhellion yr ymchwiliadau.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn galluogi'r Pwyllgor i adolygu cynnydd y Cyfarwyddiaethau o ran gweithredu argymhellion a dderbyniwyd yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor i Leoliadau y Tu Allan i'r Sir a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2018.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd ar gyfer yr eitem hon ac i wneud datganiad.   Eglurodd y Cynghorydd Hinchey y bu llawer o waith dros y 3 blynedd diwethaf, bod mwy o ddealltwriaeth bellach o leoliadau y Tu Allan i'r Sir a'r materion yn ymwneud â hwy.

 

Croesawodd y Cadeirydd Claire Marchant, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Gwasanaethau Plant i gyflwyno’r adroddiad.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Argymhelliad 1 a gofynnon nhw pam y bu mis Tachwedd yn fis asesu arbennig o dda.  Esboniodd y swyddogion fod hyn yn ymwneud ag anghenion a oedd yn cael eu bodloni ar eu pen eu hunain, byddai'r bobl ifanc wedi cael trafodaeth am anghenion/problemau ac wedi nodi eu hadnoddau eu hunain.  Nid oedd y swyddogion yn si?r pam yr oedd y mis hwnnw mor uchel o ran y ganran.

 

Gan gyfeirio at Argymhelliad 2, gofynnodd yr Aelodau pam yr oedd y targed canrannol i gael 63% o leoliadau yng Nghaerdydd wedi gostwng i 60%. Esboniodd y swyddogion ei fod wedi'i leihau gan eu bod mor bell o gyflawni’r targed gwreiddiol, bu cynnydd yn y niferoedd oedd yn derbyn gofal preswyl ac mae hyn yn effeithio ar y canrannau cyffredinol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am leoliadau mewnol a nifer y cartrefi newydd a’r gwelyau newydd.  Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai 17 o welyau ychwanegol ar draws 4 cartref; gyda 2 gartref arall yn cymryd rhan yn fuan.  Roedd hefyd yn bwysig edrych ar y ganolfan asesu a sut y gallwn wneud mwy o faethu mewnol.  Trafododd yr Aelodau y gwahaniaethau ar draws y Ddinas gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi a gwrthwynebiadau gan aelodau ward; roedd trafodaethau ar y gweill gyda’r adran Cynllunio ar y materion hyn.

 

Mewn perthynas ag Argymhelliad 3, gofynnodd yr Aelodau pa ganlyniadau a ddisgwylid o'r mentrau.  Amlinellodd y swyddogion nifer o bethau gan gynnwys; canolbwyntio ar wneud y broses yn effeithlon ac yn fwy fel busnes; cyfarfodydd wythnosol yn edrych ar recriwtio a staff; gweithio'n agos gyda’r adran marchnata a chyfathrebu; ychwanegu taliad atodol ar sail y farchnad; ei gwneud yn haws i fyfyrwyr ar leoliadau aros; tyfu pobl ein hunain drwy gyrsiau prifysgol a sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau.

 

Gofynnodd yr Aelodau am gamau/amserlenni rhaglen ddatblygu Rheolwyr Tîm.  Pwysleisiodd y swyddogion fod hyn yn newid sylweddol gyda thîm rheoli gweddol newydd.  Gwyddent fod angen rhaglen ddatblygu arnynt, mae ar y gweill ond mae angen rhaglen ddatblygu ehangach hefyd; byddai hyn yn hanfodol i'r berthynas rhwng Rheolwyr Gweithredol a Staff.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod y tîm yn hawdd iawn mynd ato, mewn swyddfa cynllun agored; bu cynnydd sylweddol yn yr adolygiadau DPP a'r peth nesaf i’w wneud oedd gwella eu hansawdd. Ychwanegodd y swyddogion fod yr haen RhG wedi'i hailstrwythuro ac mai'r rheolwyr tîm fyddai nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau am leoedd prifysgol a pha ymgysylltu oedd ag ysgolion.  Esboniodd y swyddogion fod Adnoddau Dynol wedi gofyn iddynt fynd i ysgolion i ymgysylltu.  Nid yw’r cyrsiau prifysgol yn llawn, felly'r cynllun yw tyfu pobl ein hunain drwy secondio a chymorth i ennill cymwysterau.

 

O ran Argymhelliad 4, cyfeiriodd yr Aelodau at liwiau'r siart; esboniodd y swyddogion fod yn rhaid iddynt ddyblu rhai gwiriadau asiantaeth gan nad oedd pobl â chymwysterau neu wedi’u hyfforddi.

 

Mewn perthynas ag Argymhelliad 5, gofynnodd yr Aelodau beth oedd ein cyfrifoldeb ni.  Esboniodd y swyddogion fod angen iddynt hysbysu Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae cynnal gwiriadau’n defnyddio llawer o amser swyddogion ond maent yn gadarn.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet fod nodyn briffio mewn perthynas ag Argymhelliad 6 wedi'i anfon yr wythnos ddiwethaf.

 

O ran Argymhelliad 7, gofynnodd yr Aelodau pa gefnogaeth oedd i'r man cul yn y canol ac a oedd unrhyw beth y gallai'r Pwyllgor ei wneud i osgoi iddo ddigwydd.  Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai diweddariad Cymorth Cynnar bob mis yn amlinellu'r ymyriadau a'r ataliadau cynnar yn ddefnyddiol.   Hefyd i edrych ar sut mae unrhyw newidiadau yn effeithio ar ansawdd y canlyniadau.

 

Trafododd yr Aelodau Argymhelliad 8, nodwyd bod 'lle mae'n ddiogel gwneud hynny' wedi'i ychwanegu.  Nodwyd nad oedd nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal wedi codi fel yr amcanestynnwyd a bod gofal gan berthnasau wedi cynyddu.  Nododd yr Aelodau y gostyngiad mewn atgyfeiriadau ym mis Awst a mis Medi a dywedwyd wrthynt mai atgyfeiriadau gan ysgolion ac athrawon a gwyliau'r haf oedd y rheswm dros hyn.

 

Mewn perthynas ag Argymhelliad 10, dywedodd yr Aelodau eu bod wedi cael gwybod o'r blaen y bu rhywfaint o wrthwynebiad gan rai aelodau o staff a gofynnon nhw a oedd hyn yn dal i fod yn wir.  Dywedodd y swyddogion fod rhai problemau o hyd, er eu bod wedi symud ymlaen gyda rheolwyr tîm yn cael cynllun project, arfer da ac egwyddorion i fesur yn eu herbyn.

 

Trafododd yr Aelodau Argymhelliad 13, nododd yr Aelodau fod Comisiynydd Plant Cymru yn galw am beidio ag ystyried asiantaethau proffidiol, gan edrych ar fodel yr Alban a oedd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o Loegr erbyn hyn.  Dywedwyd bod nifer o elusennau trydydd sector sy'n gweithio ym maes gofal maeth ac y gallai fod posibilrwydd o gynghrair ag ALlau, gan fanteisio ar recriwtio ac ati a gorfodi'r sector preifat allan o'r farchnad.  Cytunodd y swyddogion i edrych ar yr awgrym i gael cynghrair a nodon nhw fod y sector preifat wedi dangos diddordeb mewn cysylltu â'r Cyngor.

 

O ran Argymhelliad 16, nododd yr Aelod Cabinet na allwch atal galw, bod llawer o waith wedi'i wneud i adlinio'r gyllideb ac ar ben hyn roedd y taliad atodol ar sail y farchnad a'r ganolfan asesu.  Er eu bod mewn gwell sefyllfa ar hyn o bryd, ni allai warantu unrhyw orwariant.  Trafododd y swyddogion gyllidebau y gellir eu rheoli ac na ellir eu rheoli a'r angen i gadw'r plant yn ddiogel a darparu'r gwasanaeth.  Nodwyd y gallai grwpiau o frodyr a chwiorydd ac unrhyw broblemau gyda’r gweithlu ystumio'r gyllideb yn hawdd.  Roedd yr Aelodau o'r farn y gellid buddsoddi’n fwy er mwyn arbed gwaith.

 

Trafododd yr Aelodau Argymhelliad 19, argymhellodd yr Aelod Cabinet y dylai’r Aelodau ddarllen y Cynllun Gweithredu.  Gofynnodd yr Aelodau am wirio'r derminoleg.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen. 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.