English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Perfformiad Chwarter 3 y Gwasanaethau Plant

Galluogi Aelodau i adolygu ac asesu perfformiad y Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth am berfformiad i'r Pwyllgor ar gyfer trydydd chwarter 2019/20.  Efallai y bydd yr Aelodau am holi'r Aelod Cabinet a'r swyddogion am y perfformiad, yn ogystal â'r camau rheoli i fynd i'r afael ag unrhyw feysydd o berfformiad gwael. 

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd i’r cyfarfod ac i wneud datganiad.   Dywedodd y Cynghorydd Hinchey ei fod yn falch o gyflwyno'r adroddiad, gan nodi y bu gwelliannau mewn nifer o feysydd, yn enwedig prydlondeb mewn cynadleddau amddiffyn plant ac asesiadau lles.  Tynnwyd sylw'r Aelodau at y cynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal sy'n cael eu lleoli yng Nghaerdydd a’r nifer is o gofrestrau amddiffyn plant sy’n cael eu rhoi i'r llys.  Amlinellwyd pwysau fel staffio a lleoliadau.

 

Croesawodd y Cadeirydd Claire Marchant, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Gwasanaethau Plant gan ofyn iddynt gyflwyno'r adroddiad ar berfformiad.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Gofynnodd yr Aelodau am y rhesymau dros y lleoliadau yn Abertawe gan fod hyn y tu hwnt i'r 20 milltir.  Esboniodd y swyddogion ei fod yn eiddo rhatach a bod darparwyr rhanbarthol wedi'u lleoli yno; roedd yn bwysig ar gyfer diogelu ein plant.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam mae cwmnïau maethu preifat yn gwneud cystal a dywedodd y swyddogion eu bod yn gweithredu fel busnes, eu bod yn fasnachol gymwys, yn marchnata’n dda ac ati.  Nid yw maethu wedi bod yn fusnes craidd ALl tan yn ddiweddar ac mae angen i ALlau fod yn gystadleuol â'r sector preifat.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at ostyngiad dangosyddion perfformiad allweddol ym mis Awst a mis Medi ac esboniwyd mai’r flwyddyn ysgol a'r gostyngiad mewn atgyfeiriadau oedd y rheswm dros hyn; mae cynnydd yn y niferoedd ddiwedd mis Gorffennaf.

 

Trafododd yr Aelodau gostau, a chostau gwahaniaethol llety preswyl mewnol/allanol, ac a oedd digon o wahaniaethau yno i'w reoli'n fwy fel cynllun busnes yn y dyfodol.  Dywedodd y swyddogion ei fod yn ymwneud yn fwy ag ansawdd a chanlyniadau ar gyfer llety preswyl, yn hytrach na chostau. Esboniodd y swyddogion y Dull Strategaeth Gymunedol a fabwysiadwyd fis Tachwedd diwethaf a'r amser cyflwyno; prynu eiddo; cynllunio; staff; amlasiantaethol; asesiad manwl o anghenion pobl ifanc – i gyd ar y trywydd iawn ar gyfer yr uned asesu yn yr Hydref, a fyddai'n helpu gyda chamu i lawr a chael llai’n derbyn gofal preswyl.

 

Gofynnodd yr Aelodau am yr hyn y gellid ei wneud i fod yn fwy cystadleuol.  Esboniodd y swyddogion eu bod yn gwneud mwy nawr nag o'r blaen, gan gynnwys; Ffioedd uwch; ymgyrch farchnata gref; defnyddio cyfryngau cymdeithasol a phobl yn y gymuned ac ati.  Erbyn hyn roedd mwy o ofalwyr maeth yn dod drwy'r asesiad ac roedd y rhain yn cael eu paru â phobl ifanc benodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am fwy o wybodaeth am gostau megis a yw costau gweithredol hefyd yn cael eu hystyried.  Cytunodd y swyddogion i roi'r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Roedd yr Aelodau o'r farn y byddai data pellach ar berfformiad yn ddefnyddiol ac roeddent yn pryderu am lefelau swyddi gwag a'r hyn y gellid ei wneud i fynd i'r afael â hyn.  Esboniodd y swyddogion eu bod yn hapus i rannu data ar berfformiad staff asiantaeth a staff parhaol.  Roeddent o'r farn y byddai angen taliadau uwch i fynd i'r afael â swyddi gwag.  Byddai’r swyddogion yn croesawu craffu pellach ar hyn gan ei fod wedi bod yn broblem ers blynyddoedd ledled y DU, byddai gr?p Gorchwyl a Gorffen i sefydlu arfer gorau yn ddefnyddiol.  Ychwanegodd Aelodau'r Cabinet ei bod yn bwysig denu pobl ifanc i'r sector.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam nad yw cyfweliadau ymadael yn cael eu cynnal.  Dywedodd y swyddogion nad yw llawer o bobl am ddweud wrthych pam eu bod yn gadael ond eu bod yn edrych ar gyfweliadau gan gymheiriaid.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen. 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.