Craffu cyn penderfynu ac adolygu polisi cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor graffu cyn penderfyniad ar y Diweddariad ar y Rhaglen Trefnu Ysgolion cyn i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ar 19 Mawrth.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau i'r cyfarfod gan ei gwahodd i wneud datganiad.
Eglurodd y Cynghorydd Merry fod hyn yn drosolwg o'r CTY ar hyn o bryd. Atgoffwyd yr Aelodau o'r gwaith a wnaed ers 2012. Wrth symud ymlaen byddai heriau yn y rhaglen adeiladu yn y dyfodol megis newidiadau demograffig, yr argyfwng hinsawdd a chynnydd mewn addysg gyfrwng Cymraeg ymhlith eraill. Gofynnwyd i'r Aelodau nodi'r argymhelliad i sefydlu/cadarnhau swydd Cyfarwyddwr y CTY yn swydd barhaol, gyda'r gwaith o symud y rhaglen yn ei blaen yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes. Eglurodd Nick Batchelor nad oedd hyn wedi bod yn yr adroddiad oedd ym mhecyn adroddiad yr Aelodau.
Croesawodd y Cadeirydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes a Richard Portas, Cyfarwyddwr y Rhaglen i gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:
Gofynnodd yr Aelodau am ysgolion a oedd yn y categori 'Angen Brys' a gofynnodd beth oedd y broses wrth symud ymlaen o fynd i'r afael â'r rhain. Dywedodd yr Aelod Cabinet eu bod yn edrych i ddechrau ar gael gwared ar adeiladau ysgolion nas defnyddir ac yna'n edrych ar ddigonolrwydd lleoedd; mae unrhyw ysgolion sydd ar ôl wedyn yn mynd i Fand C, mae Llywodraeth Cymru yn asesu'r cyflwr ac yn eu bandio.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y £25 miliwn o Dderbyniadau Cyfalaf a gofynnon nhw am gynlluniau rhag ofn na chodir y swm llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod hwn yn faes pwysig o ariannu'r rhaglen; gyda rhaglen o'r maint hwn mae llawer o bethau'n newid ac roedd hynny'n un rheswm dros lunio’r adroddiad diweddaru. Mae pethau sy’n amrywio megis costau adeiladu a llog, ond nid oedd unrhyw arwyddion rhybudd o ran derbyniadau cyfalaf ar hyn o bryd.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd digon o staff a digon o arbenigedd i gyflawni'r rhaglen. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad i'r Cabinet o'r enw Capasiti a Llywodraethu yn 2018 yn edrych ar gyfweliadau ymadael a rôl Cyfarwyddwr y Rhaglen hefyd. Penodwyd cyfarwyddwr y Rhaglen hefyd ac mae wedi ail-lunio rolau a thimau ym maes addysg a datblygu economaidd i ddatblygu dull landlord corfforaethol ar gyfer yr ystâd. Mae rhai swyddi gwag ond mae'r Cyfarwyddwr yn hyderus bod y capasiti yno.
Gofynnodd yr Aelodau am fwy o wybodaeth am y model MIM. Esboniwyd bod y Cyngor yn bartner yn y cynllun. Gellid rheoli’n fwy o bosibl ac efallai y bydd angen rheoli risgiau'n fwy. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod wedi bod yn pryderu am hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i flaenoriaethau yn y dyfodol; gall hyn fod yn anos ei wneud yn y model MIM o ran defnydd cymunedol ac ati.
Cyfeiriodd yr Aelodau at ysgolion CDLl a gofynnodd am uwchgynllun i edrych ar ddalgylchoedd, cynlluniau deuol ac ati a sut mae'r cyfan yn cysylltu â'i gilydd. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn gwestiwn anodd ac yn gymhlethdod o ran sut mae datblygiadau'n digwydd a’r cytundebau adran 106. Roedd yn bwysig peidio ag ansefydlogi ysgolion sy’n agos at ddatblygiadau gyda lleoedd; mae angen ystyried y cyfrwng hefyd yn ogystal â dewis rhieni, felly roedd y cyfan yn agored i hyblygrwydd ac nid oedd uwchgynllun cadarn fel y cyfryw. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr, gydag ysgolion CDLl, ei bod yn amhosibl gwybod pwy fyddai'n symud i'r datblygiadau a beth fyddai eu dewisiadau.
Cyfeiriodd yr Aelodau at amcangyfrifon poblogaeth a gofynnon nhw a oedd unrhyw bryderon neu a oedd cynllunio ar gyfer twf parhaus yng Nghaerdydd. Dywedodd Aelodau'r Cabinet fod angen rhai trafodaethau manwl o hyd ac y byddai cwestiynau pellach ar addysg, CDLl ac ati. Roedd yr amcangyfrif ar gyfer twf yng Nghaerdydd ond yn arafach, rhagwelir gostyngiad yn y boblogaeth yng ngweddill Cymru.
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: