English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

CTY yr 21ain Ganrif - Darpariaeth Gynradd Newydd i wasanaethu rhannau o Radur, Pentre-poeth, Creigiau, Sain Ffagan a’r Tyllgoed.

(Papurau i ddilyn)

 

Craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad Polisi cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet - Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Richard Portas (Cyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Trefniadaeth Ysgol) a Michele Dudridge-Friedl (Rheolwr Gweithredol, Cynllunio a Darpariaeth) a Meirion Prys Jones i'r cyfarfod.

 

Anerchodd Merion Prys Jones y pwyllgor gan roi gwybod bod Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi bod ac yn parhau i fod yn her fawr.  Mae ysgolion trochi Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus, ond nid yw dysgu Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg wedi bod mor llwyddiannus.   Yn seiliedig ar fodelau llwyddiannus eraill, yn enwedig yn rhanbarth Basgeg Sbaen, teimlwyd y byddai'r sefydliad ffrwd ddeuol arfaethedig yn galluogi gwaith partneriaeth agos ar y ffrydiau drwy rannu safle a chyfleusterau.  Byddai hefyd yn galluogi’r plant yn y ffrwd Saesneg yn bennaf, i adeiladu caffaeliad mwy cadarn o ran y Gymraeg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Merry fod rhesymau ymarferol iawn dros ystyried y cynnig hwn, credir ei fod yn ffordd wirioneddol gyffrous iawn o dyfu'r Gymraeg; rhaid archwilio opsiynau eraill yn hytrach na throchi yn y Gymraeg.  

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

  •  

Gofynnodd yr Aelodau a yw'r model a ddewiswyd yn debygol o achosi problemau recriwtio ac fe'u cynghorwyd, er y derbynnir y bydd recriwtio'r staff addysgu angenrheidiol yn her, bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwneud â chynllunio ar gyfer yr her hon.

 

  •  

Trafododd yr Aelodau'r ymgynghoriad a holwyd pwy y cysylltwyd â hwy a pham.  Clywsant fel ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu yn yr ardal, cysylltwyd â rhieni lleol (o fewn radiws o 3 milltir), darparwyr plant, cynghorwyr ward, a phenaethiaid ysgolion cyfagos.  Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori ar wefan y Cyngor, cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio.  

 

  •  

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad y gallai disgybl symud o un ffrwd i'r llall ac fe'u cynghorwyd mai dim ond os oedd lle ar gael y gellid symud.  

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.