(Papurau i ddilyn)
Craffu cyn penderfynu a monitro perfformiad Ysgolion, gan gynnwys dadansoddi canlyniadau ar draws grwpiau ethnig a rhywiau.
Cofnodion:
Cytunodd y Cadeirydd a'r Pwyllgor y byddai'r eitem hon a chyfraniad Consortiwm Canolbarth y De at godi safonau yn Ysgolion Caerdydd yn cael eu trin gyda'i gilydd.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Adroddiad Blynyddol Ysgolion Caerdydd yn crynhoi perfformiad Ysgolion Caerdydd yn 2018/2019, ac yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed o ran codi safonau a gyrhaeddwyd gan ddisgyblion, sydd yn ei dro yn helpu i gyflawni'r amcanion a'r targedau a bennwyd gan y Cyngor. Mae adroddiad y Consortiwm yn ymdrin â'r cynnydd a wnaed gan y Consortiwm mewn perthynas â safonau yn ysgolion Caerdydd a sut mae'n cymharu ar draws y consortiwm cyfan.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet – Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Mike Tate (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes), Catherine Rowlands (Uwch Ymgynghorydd Her – Cynradd), Geraint Lewis (Uwch Ymgynghorydd Her – Uwchradd) ac Andrew Williams (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro, Consortiwm Canolbarth y De) i'r cyfarfod.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad pan ailadroddodd fod addysg yn flaenoriaeth allweddol; addysg sy'n darparu'r dechrau gorau mewn bywyd ac mae'n parhau i fod y llwybr sicraf allan o dlodi. Y nod yw darparu ar gyfer pob plentyn.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr adroddiad blynyddol, yn amlinellu cryfderau allweddol cyffredinol perfformiad Caerdydd yn 2019 ond dywedodd fod gwaith pellach i'w wneud o hyd, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd. Mae angen mynd i'r afael â'r anghysondebau ar draws ysgolion; mae angen gwaith pellach sy'n cynnwys grwpiau agored i niwed; ac mae angen canolbwyntio ar her a chefnogaeth.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.
|
Gofynnodd yr Aelodau am yr arfer o ddad-gofrestru a pha mor helaeth oedd y mater. Dywedwyd wrthynt fod amrywiaeth o resymau, mae angen datblygu protocolau er mwyn sicrhau arfer cyson o ran perchnogaeth y disgyblion hyn; mae angen adfer ac arferion adferol da. |
|
Cyfeiriodd yr Aelodau at y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a gofynnodd a oedd tebygrwydd yn y ddemograffeg y gellid eu defnyddio i ganolbwyntio cymorth. Er bod Caerdydd yn perfformio'n dda o'i chymharu â Chymru, nodwyd bod y bwlch yn dal yn sylweddol. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oes yr un disgybl yr un fath, ac y gall fod sawl mater mewn gwirionedd. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag ysgolion i nodi cynnydd dysgwyr. |
|
Nododd yr Aelodau y bu cynnydd sylweddol mewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg a bydd buddsoddiad pellach yn darparu lleoedd ychwanegol mewn lleoliadau prif ffrwd ac Angen Dysgu Ychwanegol (ADY). Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Caerdydd yn edrych ar ddarpariaeth cynhwysiant drwy gyfrwng y Gymraeg; fodd bynnag, mae'r angen cynyddol yn parhau i ragori ar y cyflenwad. Mae her hefyd o ddod o hyd i athrawon sy'n gallu ac eisiau gweithio mewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg. |
|
Gofynnodd yr Aelodau am y bwlch cynyddol rhwng merched a bechgyn sy'n gymwys i brydau ysgol am ddim a pham, er gwaethaf y ffocws ar geisio lleihau'r bwlch hwnnw, nad yw'n ymddangos ei fod yn gweithio. Dywedodd yr Ymgynghorydd Her ar gyfer ysgolion cynradd fod y prosiect dysgwyr sy'n agored i niwed yn dal i redeg ac y bydd yn parhau i'r flwyddyn academaidd nesaf, bydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Newidiwyd y dull gweithredu ac mae mwy o wybodaeth yn cael ei derbyn gan ysgolion.
Mae'r cynllun peilot arbenigol ar gynhwysiant sy'n cynnwys nodi arfer llwyddiannus wrth gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed, yn ogystal â nodi lle y gellir gwneud gwelliannau, yn golygu bod strategaeth newydd yn cael ei llunio erbyn hyn.
|
|
Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffigurau a ddarparwyd mewn perthynas â phresenoldeb disgyblion, yn enwedig cyfran yr absenoldeb parhaus ar draws ysgolion uwchradd Caerdydd, sydd wedi cynyddu o 724 i 838. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch a oedd yr absenoldeb yn dod o ysgolion penodol a pha waith oedd ar y gweill i fynd i'r afael â'r mater. |
|
Nododd y Pwyllgor fod nifer yr ysgolion sy'n cael eu categoreiddio fel Gwyrdd wedi cynyddu, ond y byddai'n cymryd amser hir ar hyn o bryd cyn i bob ysgol gael ei chategoreiddio'n Wyrdd. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai ffigurau'r llynedd oedd y rhain a bod y ffigurau ar gyfer eleni yn fwy cadarnhaol er mai dim ond rhan fach o'r gwaith a oedd yn cael ei wneud oedd categoreiddio ysgolion. Mae hefyd yn bwysig dysgu gan yr ysgolion cryfach er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cyflawni ei photensial.
|
|
Trafododd yr Aelodau'r Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac roeddent yn bryderus o nodi er bod deilliannau dysgwyr yn dangos bod angen gwaith gwella er mwyn parhau er mwyn sicrhau bod trosglwyddiadau i Addysg Heblaw yn yr Ysgol o addysg brif ffrwd yn cael eu lleihau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod angen sicrhau mai'r hyn sy'n cael ei ystyried yw'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn; er enghraifft, mae darpariaeth alwedigaethol wedi'i chysylltu â'r gostyngiad yn y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Cynigir cymwysterau ehangach nad ydynt yn rhan o'r mesurau.
Gofynnwyd a oedd cynnydd yn cael ei fonitro, roedd yn rhaid cael tystiolaeth o'r ddarpariaeth, mae swyddog sy'n gyfrifol am fonitro, a’r ysgolion sy'n gyfrifol am hysbysu'r awdurdod. Mae'n bwysig bod y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn cydweithio; a bod gwybodaeth a rennir. |
Gwahoddodd y Cadeirydd Andrew Williams (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro, Consortiwm Canolbarth y De) i ychwanegu unrhyw wybodaeth bellach y teimlai y dylid ei darparu. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad gan y Consortiwm yn debyg iawn ac yn cyd-fynd â'r Adroddiad Blynyddol.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.
|
Gofynnodd yr Aelodau a yw ysgolion wedi cael eu graddio’n rhy uchel a dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro y Consortiwm nad oedd yn credu bod hynny'n wir. Mae bellach yn ymwneud â'r disgybl yn hytrach na'r ysgol. Gofynnir i ysgolion hunanwerthuso a rhoi gwybod i'r Consortiwm os dylent fod yn bryderus. Mae yna wiriadau a gwrthbwysau bob amser. Yr allwedd yn awr yw'r wybodaeth sy'n cael ei derbyn oddi wrth ysgolion a gwybodaeth yr ymgynghorwyr am ysgolion. |
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: