Galluogi’r Aelodau i adolygu ac asesu perfformiad Gwasanaethau Plant o ran cefnogi Plant a Phobl Ifanc sy’n derbyn gofal.
Cofnodion:
Mae'r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor am berfformiad yn ystod ail chwarter 2019/20 ac yn galluogi asesiad o'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella canlyniadau i blant mewn angen a phlant sy'n derbyn gofal.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Deborah Driffield (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro, Gwasanaethau Plant) i’r cyfarfod.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.
|
Bu'r Aelodau'n trafod recriwtio gofalwyr maeth a hefyd recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol. Cafodd yr Aelodau wybod bod 28 o geisiadau gofalwyr maeth yn cael eu prosesu ar hyn o bryd. Nodwyd ei fod yn anodd iawn lleihau'r cyfnod asesu i gyfnod dan 6 mis.
Dywedwyd wrth yr Aelodau nad yw canran y swyddi gwag o ran gwaith cymdeithasol yn gwella ar hyn o bryd. Mae'r ymgyrch recriwtio yn dal i fynd rhagddi.
|
CYTUNWYD – bod yr Aelodau yn nodi'r adroddiad.
Dogfennau ategol: