Eitem Agenda

'Atal Cyfranogiad Pobl Ifanc o ran Delio mewn Cyffuriau' - Ymateb a chynnydd pellach

Mae’r adroddiad hwn yn galluogi'r Pwyllgor i gael eu briffio ar y cynnydd a wneir i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad ar yr ymchwiliad.

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr eitem hon yn galluogi'r Pwyllgor i adolygu ac asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn ogystal ag unrhyw gamau i'w cymryd yn y dyfodol o ran gweithredu argymhellion yr ymchwiliad ar y cyd.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Linda Thorne (Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau) ar gyfer yr eitem hon a'i gwahodd i wneud datganiad lle tynnodd sylw at bwysigrwydd y wybodaeth a'r argymhellion a ddarparwyd o ganlyniad i'r ymchwiliad, a'i bod wedi cael ei chydnabod gan yr ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Corfforaethol. 

 

Croesawodd y Cadeirydd Sarah McGill (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau), Alison Jones (Rheolwr Diogelwch Cymunedol Dros Dro) a Phillip Norton (Arweinydd Cyflawniad Addysg wedi'i Thargedu) i'r cyfarfod. Cafodd yr Aelodau cyflwyniad a oedd yn amlinellu'r ymatebion i'r argymhellion a ddarparwyd o ganlyniad i'r ymchwiliad. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau.

 

  •  

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gwasanaethau anodd eu cyrraedd, a gofynnwyd a fyddai unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau lloeren.  Yn enwedig lle nad oes Hyb ar hyn o bryd.  Nododd yr Aelodau bod angen gwneud y defnydd gorau o'r asedau sydd ar gael, mae'n bwysig gallu nodi bylchau ac anghenion a lle mae grwpiau sy'n barod i ddarparu gweithgareddau.  Yn yr hinsawdd ar hyn o bryd, nid oes rhagor o arian ar gael.    

 

  •  

Trafododd yr aelodau Addysg Heblaw yn yr Ysgol, gwaharddiadau a rôl Llywodraethwyr.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod rhaglen hyfforddi llywodraethwyr ar gael ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gwaharddiadau.   Mae'n bwysig sicrhau bod unrhyw symudiadau'n cael eu rheoli'n dda, gan mai dim ond nifer fach o ysgolion sy'n cael eu tandanysgrifio ac mae'n bwysig sicrhau nad yw disgyblion sy'n cael eu gwahardd yn cyrraedd yr un ysgolion yn y pen draw.  

 

  •  

Holodd yr Aelodau a oedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth gywir, ac fe'u cynghorwyd y teimlid y dylai eistedd gydag Addysg a bod yna elfennau gwahanol, yn amlwg, ond bod dull gweithredu ar y cyd rhwng Tai, Cymunedau, Addysg a Gwasanaethau Plant yn hanfodol.  Mynegwyd pryder ynghylch natur y cymorth a ddarperid yn enwedig ar ôl oriau ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.   Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o ddefnyddio gwirfoddolwyr.  Mae angen ymgysylltu o fewn y system oedolion ac ieuenctid.  

 

  •  

Nododd yr Aelodau ei bod yn bwysig ystyried y bylchau daearyddol wrth ystyried dull gweithredu ar sail ardal a sicrhau bod ymrwymiad i ddarparu adnoddau ychwanegol mewn ardaloedd lle mae bwlch, a bod yr adnoddau hynny yn integreiddio mor effeithiol â phosibl, yn enwedig lle mae brwdfrydedd ac ymrwymiad gwirioneddol gan y gymuned. Mae yna ardaloedd sydd dan eu sang â chyfleusterau a sefydliadau sy'n delio â materion cyffuriau, diod a digartrefedd.  Lle mae pobl ifanc yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r materion hynny o ddydd i ddydd.   Mae angen rhoi ystyriaeth hefyd i ble y lleolir yr adnoddau/cyfleusterau hynny.  

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: