Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd John Lancaster
Eiliwyd gan: Councillor Shaun Jenkins
Yn unol â Rhifyn 10 Polisi Cynllunio Cymru (Rhagfyr 2018), y gwahaniaeth hanfodol rhwng lletem glas a Llain Las yw, “…y dylai tir mewn Llain Las gael ei ddiogelu am gyfnod hwy na chyfnod y cynllun datblygu presennol perthnasol, tra dylid adolygu polisïau lletemau glas fel rhan o’r broses o adolygu’r cynllun datblygu.”
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
· Y bydd y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol yn dod i ben yn 2026.
· Y caiff y broses o ddiogelu’r lletem glas yng ngogledd Caerdydd, sy’n ymestyn o Greigiau i Laneirwg ei hadolygu yn rhan o’r CDLl nesaf.
· Bod yr Ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft yn nodi:
“Mae Llywodraeth Cymru o blaid defnyddio lleiniau gwyrdd yn rhanbarth y De-ddwyrain i reoli a chynllunio twf trefol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’r cyd-destun polisi ar eu cyfer. Mae’n rhaid i’r Cynllun Datblygu Strategol nodi llain las sy’n cynnwys yr ardal i’r gogledd o’r M4 o Groesfannau Hafren i Ogledd Caerdydd.”
Felly rydym yn galw ar y Cyngor hwn i weithio gydag Awdurdodau Lleol cyfagos i ailddatgan a gwella diogelu trwy ddynodi’r lletem glas cyfredol yn Llain Las er mwyn diogelu asedau gwyrdd y Ddinas yn fwy hirdymor.
Dogfennau ategol: