English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Perfformiad Dros Dro Ysgolion Caerdydd 2018/2019

Derbyn manylion y canlyniadau Lefel A a TGAU dros dro yn ysgolion Caerdydd yn 2018/19

 

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr adroddiad hwn yn rhoi Canlyniadau Ysgol Dros Dro i'r Pwyllgor ar gyfer 2018/19 a bod y papur briffio amgaeedig yn rhoi canlyniadau'r ysgol dros dro i'r Aelodau, ynghyd â dadansoddiad manylach ar draws y gwahanol feysydd. 

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Diprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Mike Tate (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Aelodau fod newidiadau sylweddol wedi bod yn y trefniadau asesu ac adrodd ar gyfer perfformiad ysgolion a disgyblion yng Nghymru eleni.  Yna, rhoddwyd amlinelliad i'r aelodau o ganlyniadau perfformiad allweddol ar lefelau cynradd ac uwchradd.  Nodwyd data dros dro ar gyfer y chweched dosbarth hefyd.  Bydd adroddiad mwy manwl yn cael ei baratoi ym mis Ionawr yn edrych ar ysgolion penodol a'r data ehangach. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

  •  

Trafododd yr Aelodau newidiadau ehangach ac roeddent yn teimlo y bydd ond o fudd i ysgolion gymryd rhan yn y grwpiau gwella a holwyd a fydd hyn yn cael effaith gadarnhaol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ei fod yn ymwneud â chysylltu ysgolion â'r partneriaid priodol yn enwedig lle mae'r perfformiad yn is, bydd hefyd yn helpu i ymgysylltu â'r grwpiau gwella.  Teimlid hefyd ei bod yn bwysig edrych ar y gyfres gyfan o fesurau i gynorthwyo'r materion perfformiad yr oedd rhai ysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

 

  •  

Roedd aelodau'n pryderu bod y dulliau adrodd newydd yn cuddio perfformiad gwael ac nad oeddent yn tynnu sylw at ysgolion neu ardaloedd penodol mewn ysgolion sy'n methu neu'n dechrau methu. 

Hysbyswyd yr Aelodau mai bach iawn yw'r gostyngiad canrannol, mae'n caniatáu dechrau deialog i geisio deall pam ei fod yn digwydd.  Mae angen i'r mesurau allu darparu gwybodaeth am sut mae'r ysgol gyfan yn perfformio ac nid rhan ohoni’n unig.  Mae angen tryloywder mewn perthynas â'r ysgol gyfan. Mae angen i Gyrff Llywodraethu allu gofyn a chael sicrwydd bod yr hyn a ddywedwyd wrthynt yn cael ei ddilysu gan fesurau caled.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.