English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Strategaeth Addysg - Caerdydd 2030

Galluogi aelodau i graffu ar y strategaeth addysg cyn penderfynu, cyn iddi gael ei hystyried gan y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr eitem hon wedi galluogi'r Pwyllgor i adolygu ac asesu strategaeth 10 mlynedd addysg Caerdydd – sef Caerdydd 2030.  Roedd y Pwyllgor, mewn cyfarfodydd blaenorol, wedi helpu i ddylanwadu ar ddatblygiad y Strategaeth.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Diprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Mike Tate (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad lle nododd fod pob plentyn yn wynebu heriau gwahanol, a bod rhai ar ei hôl hi cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.  Rhaid cydnabod hynny ac felly mae'n bwysig lapio'r strwythur a'r gwasanaethau o amgylch y plentyn.  Ein nod yw sicrhau bod gan ein dinas safon uchel iawn o addysg ar gyfer pob plentyn. 

 

Aeth Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) ag Aelodau drwy adroddiad drafft y Cabinet yn amlinellu mai llawer o'r hyn sydd ei angen dros y deng mlynedd nesaf fydd cydgrynhoi ac ymestyn y cynnydd a wnaed ers i Gaerdydd 2020 gael ei lansio.  Bydd addysg yn edrych yn wahanol iawn yn 2030, mae'n nodi newid dwfn a systematig. Diben y cynllun yw llunio'r blaenoriaethau a ddylai fod yn amlygu eu hunain yn y Cynllun Cyflawni’r Uchelgais Prifddinas.   Mae'n ymwneud â rhannu cyfrifoldebau a dal ein gilydd i gyfrif.  Mae angen cydnabod hefyd rôl rhieni fel addysgwyr cychwynnol.

 

Nodir hyn yn y 2 thema a'r 5 nod:

 

Themâu:

 

  1. Cyfrifoldeb a rennir dros addysg a dysgu ym mhob cwr o’r ddinas; a
  2. Chyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc.

 

Amcanion:

 

  1. Hawl i ddysgu;
  2. Iechyd a llesiant dysgwyr;
  3. Cyflawni Cwricwlwm i Gymru 2022 yng Nghaerdydd;
  4. Gweithlu addysg sydd gyda’r gorau yn y byd; ac
  5. Amgylcheddau dysgu o safon uchel.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

  •  

Trafododd yr Aelodau'r diffyg cyfeiriad at strategaethau bwlio yn yr adroddiad a dywedwyd wrthynt, er nad oedd wedi'i restru'n benodol, ei fod yn rhan gynhenid o'r cyfeiriadau amrywiol at ddiogelwch a lles plant, a bod y ddelwedd gadarnhaol o'r hyn y dylai plentyndod fod yn rhedeg drwy'r adroddiad cyfan.

 

  •  

Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffaith nad oedd yr ysgol yn gweithio i bob plentyn a bod yna fwlch cyrhaeddiad o ran ethnigrwydd yng Nghaerdydd.  Derbynnir nad yw'r canlyniadau'n ddigon uchel o hyd a bod llawer o blant a phobl ifanc yn methu â gwneud yn ddigon da am nad ydynt yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn y system.  Nid oes digon o gynnydd wedi bod o hyd o ran cael gweithlu mwy amrywiol.  

 

  •  

Mynegodd yr Aelodau bryder nad yw pwysigrwydd rôl rhieni/oedolion yn chwarae yn eu haddysg yn cael ei gydnabod yn briodol o fewn y nodau.  Er bod y nod cyntaf yn cyfeirio at ddysgu gydol oes o ansawdd uchel, mae'n ymddangos ei fod yn dod i ben ar 19 oed ac nid oes unrhyw gyfeiriad pellach at eu dysgu.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y gwerthoedd wedi'u pennu'n glir o fewn y dogfennau a ddarparwyd ond nad oes bwriad i ddarparu gwybodaeth fanwl am weithredu ym mhob ardal.  Mae cysylltiadau cryf gydag addysg bellach, mae'n bwysig paratoi dysgwyr i fynd ymlaen ymhellach.

 

  •  

Nododd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau bod ysgolion yn ganolog i'r cymunedau lleol ac y datblygir Ymagwedd Ysgol sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod sgyrsiau'n digwydd ac y gall y ddogfen hon helpu i lywio'r sgyrsiau hynny.  Hoffai'r Aelodau hefyd weld nad yw'r dull hwn ond yn ymwneud â'r cyfleusterau chwaraeon y gellir eu defnyddio, ond yn hytrach yn darparu cyfleusterau eraill a all fod ar gael i rieni, er enghraifft dosbarthiadau Saesneg neu gyfrifiaduron.

 

  •  

Roedd yr Aelodau'n cyfeirio at yr holl ysgolion fel ysgolion sy'n parchu hawliau ac yn holi sut y byddai hynny'n gweithio.  Cynghorodd yr Aelod Cabinet y dylid rhoi pwyslais ar lais y disgybl, mae'n fwy na dim ond gofyn sut y mae am ailgylchu plastig, mae'n ymwneud ag ymgysylltu a llunio'r rheolau o fewn yr ysgol ei hun.  Mae'n ymwneud â hwy'n cydnabod nad yw hyn ond amdanyn nhw’n unig, ond mae’n ymwneud â'r person neu'r disgybl sy’n eistedd wrth eu hymyl. 

 

  •  

Trafododd yr Aelodau fesurau llwyddiant a'r ffaith eu bod yn ymddangos braidd yn amwys ond nodwyd mai dogfen ar gyfer y 10 mlynedd nesaf yw hon ac y byddai dogfennau eraill gyda thargedau penodol.

 

  •  

Bu'r Aelodau'n trafod y bwlch sylweddol rhwng canlyniadau'r rhai ar incwm uchel ac isel.  Nodwyd ei fod yn bodoli mewn dinasoedd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.  Mae'n ddyhead parhaol sy'n heriol iawn.

 

  •  

Nododd yr Aelodau mai'r dyddiad lansio ar gyfer y ddogfen hon yw 19 Tachwedd yn Neuadd y Ddinas.  Gwahoddwyd yr Aelodau i fod yn bresennol.

 

  •  

Cyfeiriodd Aelodau at y ffaith bod Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn enghraifft o ysgol â chyfleusterau da a ddefnyddir gan y gymuned, a bod buddsoddiad yn yr ysgol honno wedi digwydd.  Beth yw'r weledigaeth a'r uchelgais ar gyfer ysgolion sydd â materion yn ymwneud â'u hystâd sydd angen buddsoddiad ymhellach ynddynt.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod her wirioneddol o ran ysgolion yn caniatáu mynediad.  Mae'n haws i'r ysgol uwchradd fwy ond yn anoddach i ysgolion cynradd.  Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ffyrdd o helpu a chefnogi ysgolion.  O ran ysgolion lle mae angen buddsoddiad, ni fyddai'n ddoeth bychanu'r her a wynebir mewn perthynas â'r ysgolion hynny. 

 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.