Eitem Agenda

Arwyddion Diogelwch - cynnydd

Galluogi aelodau i gynnal adolygiad o'r cynnydd a wneir o ran gweithredu'r Arwyddion Diogelwch.

 

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr adroddiad hwn yn rhoi cyflwyniad i'r Pwyllgor ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwreiddio'r model arwyddion diogelwch ar draws y gwasanaethau i blant.

 

Croesawodd y Cadeirydd Claire Marchant, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Deborah Driffield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Plant a Shirley Saunders, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Plant a gofynnwyd iddynt fynd ag Aelodau drwy eu cyflwyniad.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Nododd y Cadeirydd fod y Cyfarwyddwr Cynorthwyol blaenorol wedi dweud dros 2 flynedd yn ôl y byddai Caerdydd yn gweithredu Arwyddion Diogelwch yn llawn, a gofynnodd i ba raddau y mae hyn wedi cael ei ddatblygu pan fydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol presennol wedi dechrau yn ei swydd.  Dywedwyd wrth yr Aelodau y bu llawer o wrthwynebiad gan uwch reolwyr, gelyniaeth tuag at hyfforddwyr ac ymgynghorwyr; roedd cyfarfod diweddar gyda'r ymgynghorwyr wedi ystyried bod Caerdydd ar tua 3/10 o ran y graddfeydd gweithredu.  Nodwyd bod Lloegr yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Ganolog a'i bod yn cael llawer o gefnogaeth o ran hyn a'u bod yn dal i fod ond 5/10 ar y raddfa.  Nodwyd hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Arwyddion Diogelwch.  Blwyddyn 3 oedd hi erbyn hyn ac nid oedd rhagor o arian ar ôl ar gyfer hyfforddiant.   Mynegodd y Cadeirydd ei rwystredigaeth gan fod rhagflaenwyr wedi dweud bod pethau'n symud ymlaen llawer mwy na hyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen i'r blociau adeiladu fod ar waith yn briodol ac, o dan y strwythur blaenorol, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl; roedd angen newidiadau mawr gan gynnwys adeiladu swyddi.  Roedd y Cadeirydd o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar ymatebion blaenorol i lythyrau Pwyllgor ar y mater hwn, i egluro ei rwystredigaeth.

 

Roedd aelodau'n gwerthfawrogi gonestrwydd swyddogion ond roeddent o'r farn ei fod yn codi pryderon sylweddol o ran craffu.   Nid oedd yr Aelodau'n glir a oedd 90 o staff a hyfforddwyd yn dda neu'n ddrwg; nid oedd unrhyw adrodd ar effaith Arwyddion Diogelwch ar blant a theuluoedd; roedd yr holl wybodaeth yn seiliedig ar brofiad eraill neu ymchwil ac nid oedd sail dystiolaeth.  Gofynnodd yr Aelodau beth yn union oedd yn cael ei ddathlu ym mis Ionawr 2020.   Eglurodd y swyddogion ei fod yn ymwneud â choladu data, roedd llawer o dystiolaeth o deuluoedd/llysoedd ac ati ond roedd yn anodd adrodd am hyn.  Dywedwyd bod angen system rheoli perfformiad/sicrhau ansawdd i allu adrodd; roedd tystiolaeth o'r effaith, ond roedd angen iddi fod yn fwy cydlynol o ran sut yr ydym yn adrodd yn ystadegol.  O ran hyfforddiant, esboniodd swyddogion fod angen i hyn fod yn gynaliadwy, yn enwedig i'n gweithlu ein hunain yng Nghaerdydd.   Mae cynllun perfformiad gyda 4 pedrant, ond roedd yn anodd iawn dangos tystiolaeth uniongyrchol mai Arwyddion Diogelwch yn unig oedd yr effaith.  Cynigiodd swyddogion ddod ag adroddiad mwy gwyddonol i gyfarfod yn y dyfodol.  

 

Er y gallai fod tystiolaeth anecdotaidd, nododd yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael naratif iddo.   Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd cymharu sylwadau teuluoedd/plant sydd wedi bod drwy Arwyddion Diogelwch; dywedodd y swyddogion y gallai hyn fod yn bosibl os oedd ganddynt weithwyr cymdeithasol cyn ac ar ôl Arwyddion Diogelwch.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y costau'n gysylltiedig â'r ffigurau gwirioneddol, ac fe'u cynghorwyd bod hynny'n wir.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: