Eitem Agenda

Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 Gwasanaethau Plant

Monitro perfformiad y Cyngor ar y Gwasanaethau Plant ar gyfer chwarter 1, 2019-20.

 

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth am berfformiad i'r Pwyllgor ar gyfer chwarter cyntaf 2019/20.  Byddai Aelodau'n cael cyfle i holi'r Aelod Cabinet a'r swyddogion am y perfformiad, yn ogystal â'r camau rheoli i fynd i'r afael ag unrhyw feysydd o berfformiad gwael. 

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Weaver, ar gyfer yr eitem hon a gwahoddwyd ef i wneud datganiad lle dywedodd y byddai'n dda gweld y fersiwn fanwl o'r adroddiad perfformiad.

 

Croesawodd y Cadeirydd Claire Marchant, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Deborah Driffield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro, Gwasanaethau Pant a gofynnwyd iddynt gyflwyno'r adroddiad ar berfformiad i'r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Roedd yr Aelodau'n cyfeirio at yr adroddiad sy'n amlygu materion ond yn brin o fanylion am sut i ddatrys y problemau, gan gyfeirio'n benodol at Blant/Anableddau.   Eglurodd y swyddogion y bu gwaith comisiynu mawr ar gyfer gofal cartref ac mai 3 darparwr yn unig a oedd ar gael ar gyfer plant.   Cafwyd ymarferion ymgysylltu cyn yr ymarfer ail-dendro ond dim ond hyn a hyn o fanylion y gellid eu cynnwys yn yr adroddiad, ond mae cynlluniau sylweddol o dan bob un o'r pwyntiau bwled.   Gellid dod ag adroddiad mwy manwl yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Gofynnodd yr Aelodau am waith ardal ac arwyddion o effaith diogelwch ar lwythi achosion.   Roedd swyddogion o'r farn nad yw llwythi achosion yng Nghaerdydd yn sylweddol uwch nag mewn mannau eraill; esboniwyd mai gwaith ardal yw tair ardal, gyda 3 thîm plant sy'n derbyn gofal ym mhob un; mae'r gweithiwr cymdeithasol bellach yn gweithio gyda'r teulu yn hytrach na'r plentyn; mae hyn yn ei gwneud hi'n haws cysylltu darpariaeth, i gamu pethau i lawr a dylai ei gwneud yn haws i wreiddio atal.  Mae Arwyddion Diogelwch yn siwrnai, a bydd ardal yn rhoi mwy o seilwaith iddi, gyda mwy o amser i fwy o reolwyr fyfyrio ar arfer.   Mae'n cymryd mwy o amser, gan weithio gyda theuluoedd i sefydlu ffordd ymlaen, ond mae'n helpu yn y pen draw.  

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnig am dîm wedi'i dargedu o weithwyr achos a gofyn o ble y byddai'r rhain yn dod.   Eglurodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, pan ddechreuodd wneud newidiadau yn y gwasanaeth plant sy'n derbyn gofal, y bu llawer o wrthwynebiad gyda phobl yn gadael; roedden nhw wedi comisiynu timau rheoli a dod â nhw i mewn pan oedd hi'n anodd, mae'n costio arian felly nid yw'n cael ei ddefnyddio heb ystyriaeth lawn ond roedd y gwahaniaeth roedd y tîm wedi'i wneud mewn 4 wythnos yn unig yn anhygoel.  O ran modelu, mae'r rheolwyr presennol yn gweithio'n wahanol yn awr hefyd.

 

Roedd Aelodau'n cyfeirio at beidio â bodloni anghenion addysgol ac yn gofyn beth yw'r materion a beth sy'n cael ei wneud i'w datrys.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod hwn yn fater o bwys i blant y tu allan i'r sir, bod gwaith mawr yn mynd rhagddo gydag addysg i ddeall y materion sy'n codi gan gynnwys darparu addysg mewn lleoliadau a bod gan Gaerdydd nifer isel o oriau i gwrdd ag allbynnau addysgol.   Mae'r Bwrdd Diogelu a'r Pwyllgor Cynghori ar Rianta Corfforaethol hefyd yn canolbwyntio ar y mater hwn.

 

Mewn perthynas â lefelau salwch a'r bobl sy'n gadael y gwasanaeth; gofynnodd yr Aelodau a oedd diwylliant yr adran yn cael ei drafod, yn enwedig pan fydd pobl newydd yn cael eu recriwtio.  Eglurodd swyddogion fod salwch tymor byr, hyd yn ddiweddar, yn is nag adrannau eraill; roedd salwch hirdymor yn fwy problemus; mae'r rhan fwyaf o fewn y proses ddisgyblu er nad yw rhai ohonynt.  O ran diwylliant, dywedwyd wrth yr Aelodau fod yna ddiwylliant bwlio cryf iawn pan oedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol presennol wedi dechrau yn ei swydd ac mae hyn yn dal i effeithio ar y gallu i recriwtio.   Roedd hi'n glir bellach na fyddai hyn yn cael ei oddef, fe'i gwnaed yn glir sut mae'r model rheoli presennol yn ymddwyn yn briodol ac yn gadarn; fodd bynnag, roedd y bwlio wedi bod yn hir iawn a byddai'n cymryd amser i fynd.  Gofynnodd yr Aelodau am niferoedd yr achosion disgyblu sy'n parhau, ac fe'u cynghorwyd y gellid darparu'r ffigurau ar ôl y cyfarfod.

 

Nododd Aelodau fod trosiant staff yn eithaf uchel a gofynnwyd am hyd gyflogaeth ar gyfartaledd yn y pum mlynedd diwethaf.   Cytunodd swyddogion i ddod o hyd i'r wybodaeth a'i darparu ar ôl y cyfarfod; fodd bynnag, nodwyd bod symudiad staff yn fewnol hefyd.

 

Roedd aelodau o'r farn ei bod yn braf clywed swyddogion yn siarad mor agored a gonest.   Ategwyd hyn gan yr Aelod Cabinet a oedd o'r farn ei bod yn wych gweld swyddogion yn bod mor blaen gyda’r Pwyllgor Craffu ag yw’r Aelod Cabinet.

 

Gwnaeth Aelodau gyfeirio at y project Myfyrio a gofynnwyd iddynt sut yr oedd hyn yn mynd yn ei flaen.  Dywedodd swyddogion fod hyn yn anodd ei ateb, roedd yn broject ardderchog ond cafodd ei godi gyda'r gwasanaeth mabwysiadu ynghylch pryderon o ran proses y llys.  Ar hyn o bryd os yw plentyn yn cael ei fabwysiadu yn erbyn dymuniadau yna cynigir Myfyrio iddo. Unwaith y caiff y plentyn ei fabwysiadu yna bydd rôl y Cyngor yn gorffen.  Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol yn darparu cymorth parhaus fel bod swyddogion wedi gofyn a fyddent yn ystyried gweithio gyda rhieni i'w hannog i fynd i Fyfyrio ymhellach ar hyd y broses.  Cytunodd swyddogion i edrych ar nifer yr atgyfeiriadau a rhoi'r wybodaeth i'r Pwyllgor.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol: