English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg-2018-2019

Cynnal adolygiad ac asesiad o’r gwaith a wneir fel y nodir yn yr adroddiad blynyddol.

 

 

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr adroddiad hwn wedi rhoi cyfle i'r Pwyllgor adolygu ac asesu gwaith y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r adroddiad yn ymdrin â diogelu Oedolion a Phlant, felly atgoffwyd yr Aelodau gall y Pwyllgor ond Craffu ar faterion sy'n ymwneud â Phlant a Phobl Ifanc.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod y Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Claire Marchant, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Kate Bishop, Rheolwr Busnes y Bwrdd a gofynnodd iddynt gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd i'r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at agenda Prevent a phryderon ynghylch sut yr oedd hyn yn cael ei ddatblygu.   Gofynnodd yr Aelodau pa waith oedd yn cael ei wneud gyda'r cymunedau ffydd i sicrhau eu bod yn cael eu datblygu'n briodol.   Eglurodd y swyddogion eu bod yn darparu hyfforddiant ar gyfer pob Mosg yng Nghaerdydd a'r Fro.  Datblygasant bolisi ar gyfer mosgiau a lleoliadau Islamaidd eraill yn 2017; roedd hwn bellach yn cael ei ddatblygu ar gyfer grwpiau ffydd eraill.  Roedd Prevent wedi bod ar agenda cyfarfod y Bwrdd Diogelu, yna aeth pob asiantaeth unigol ati i'w datblygu; roedd mwy o waith i'w wneud ond roedd cysylltiadau agos wedi'u hadeiladu i'w seilio ar 2019/20.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwaith da wedi'i wneud hyd yn hyn i ddeall pob cymuned ar draws Caerdydd, ac i weithio gyda hwy i ddatblygu eu polisïau eu hunain.   Mae gan Prevent ei deddfwriaeth benodol ei hun ac mae'n mynd i fwy o fanylder na diogelu cyffredinol, sy'n benodol i'r grwpiau.

 

Roedd yr Aelodau'n cyfeirio at y gwaith Rheoli Trothwy yn parhau ac i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a gofynnwyd sut y caiff y rhain eu dadansoddi o ran effeithiolrwydd.  Eglurodd y Cyfarwyddwr eu bod yn olrhain effaith y gwaith y maent yn ei wneud; bod archwiliadau'n cael eu cynnal; bod goblygiadau polisi ac ati, a bod y Bwrdd yn ystyried y cyfan gyda'i gilydd, gan weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau ein hunain.  Nododd yr Aelodau'r gwaith tasg a gorffen blaenorol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ac roeddent o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol rhannu hyn â swyddogion.

 

O ran Adolygiadau Diogelu Plant, gofynnodd yr Aelodau sut y penderfynwyd ar yr achosion, gan nodi mai dim ond 5 a oedd wedi'u cwblhau; gan ofyn a oedd proses ar gael i aelodau fwydo i mewn i'r achosion sy'n cael eu hadolygu a sut mae'r adolygiadau yn bwydo i mewn i ymarferwyr ar lawr gwlad trwy adborth ac ati.  Esboniodd swyddogion fod meini prawf penodol i'w bodloni er mwyn cynnal adolygiadau Diogelu Plant, mae'r meini prawf hyn ar y wefan ac maent ar gael gan y fforwm atgyfeirio hefyd.  Mae achosion wedyn yn mynd i'r is-gr?p Adolygiad Ymarfer Plant/Adolygiad Ymarfer Oedolion, sy'n penderfynu a yw'n bodloni'r meini prawf, os felly argymhellir i gyd-gadeiryddion y Bwrdd, os ydynt yn cytuno, yna mae'r broses yn cychwyn at Lywodraeth Cymru.  Mae'n broses hirfaith.   Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr holl ethos yn ymwneud â dysgu, buddsoddi mewn digwyddiadau dysgu ac edrych ar ddysgu a chanlyniadau, gan sicrhau bod argymhellion yn cael eu hadlewyrchu i ymarferwyr; er mwyn llywio arferion polisi, gweithdrefnau, archwiliadau ac ati.   Mae'r uned fusnes a'r is-gr?p Adolygiad Ymarfer Plant/Adolygiad Ymarfer Oedolion yn cadw'r holl argymhellion y maent yn eu lledaenu i Aelodau'r Bwrdd ac ymarferwyr fel bod y wybodaeth yn cael ei bwydo yn ôl i'r Bwrdd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at yr Is-gr?p Archwilio Plant, gan nodi mai dim ond 1 o bob 4 blaenoriaeth oedd wedi'u bodloni, 1 wedi'i ddwyn ymlaen i'r flwyddyn nesaf a 2 wedi methu.  Gofynnodd yr Aelodau a oedd y ffocws wedi bod ar ormod o bethau ac roedd blaenoriaethau wedi llithro a beth oedd yn cael ei wneud y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â hyn.   Eglurodd y swyddogion fod y Bwrdd yn edrych ar is-grwpiau i sicrhau eu bod yn gweithio fel y dylent a bod eu blaenoriaethau'n tynnu allan o gynlluniau blynyddol ac argymhelliad yr Adolygiad Ymarfer Plant.  Mae angen cynlluniau gwaith symlach wrth symud ymlaen.   Ychwanegodd y Cyfarwyddwr ei fod yn ymwneud ag effeithiolrwydd, cryfhau trefniadau cadeirydd yr is-gr?p; dylai'r Cadeirydd fod o'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac yn llwyr ddeall y blaenoriaethau cyffredinol.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw dystiolaeth bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio Cartrefi Plant anghofrestredig, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn cyfeirio at ddefnyddio llety byw â chymorth a bod Caerdydd yn defnyddio byw â chymorth yn rheolaidd pan fo yn y cynllun gofal; byddai'n cael ei ddiogelu a'i adolygu'n rheolaidd.  Bu achlysuron pan na fydd yn bosibl bodloni cynllun gofal am gyfnod byr iawn a gellir rhoi trefniadau diogelwch ar waith hyd nes y gellir cyflawni hyn.   Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r BDRh yn edrych ar hyn a chawsant wybod ei fod yn flaenoriaeth i'r BDRh.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.