Eitem Agenda

Cylch Gorchwyl

Cytunodd y Cyngor, yn ei gyfarfod blynyddol ar 23 Mai 2019, ar y Cylch Gorchwyl canlynol:

 

·       Ymgymryd â swyddogaeth yr awdurdod lleol o ran penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd;

·       Parhau i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth o staff, adeiladau ac adnoddau eraill a ddarperir i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd yr Awdurdod.

·       Llunio adroddiadau, o leiaf bob blwyddyn, ar gyfer y Cyngor llawn mewn perthynas â’r materion hyn.