Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Ed Stubbs
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Chris Lay
Mae'r Cyngor hwn:
· |
Yn nodi canfyddiadau’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd sy’n nodi “rydym eisoes yn gweld effaith cynhesu byd-eang gan 1°C drwy fwy o dywydd eithafol, lefelau'r môr yn codi a rhew môr Arctig yn cael ei ddifetha”;
|
· |
Nodi canfyddiad y Panel bod “cynhesu gan 1.5ºC neu uwch yn cynyddu’r risg sy’n gysylltiedig â newidiadau hirdymor neu nad oes modd eu gwrthdroi, megis colli rhai ecosystemau”, ac y byddai "cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5ºC yn gofyn am newidiadau 'brys ac uchelgeisiol' o ran tir, egni, diwydiant, adeiladau, trafnidiaeth a dinasoedd. Byddai angen i allyriadau carbon diocsid (CO2) net byd-eang a achosir gan fodau dynol ostwng oddeutu 45% o lefelau 2010 erbyn 2030, gan gyrraedd ‘net zero’ erbyn oddeutu 2050”;
|
· |
Nodi gwaith hyrwyddo ac ymchwil Cyfeillion y Ddaear, ac eraill, ar ddaliadau cronfeydd Pensiynau Llywodraeth Leol, gan gynnwys Caerdydd a’r Fro, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;
|
· |
Croesawu penderfyniad diweddar y Pwyllgor Pensiynau i symud 10% (oddeutu £200 miliwn) o asedau’r gronfa i ariannu tracio Mynegai Carbon Isel Byd-eang; ac
|
· |
Yn croesawu penderfyniad diweddar y Pwyllgor Pensiynau i ddatgan ei “gefnogaeth mewn egwyddor i beidio â buddsoddi mewn cwmnïau sydd ynghlwm wrth echdynnu tanwyddau ffosil, yn amodol ar hyn yn bod yn gyson â'i ddyletswyddau ariannol ac asesiad rheolaidd o effaith penderfyniad buddsoddi o'r fath; ac yn datgan ei gefnogaeth i ddatblygiad pellach Polisi Buddsoddiad Newid yn yr Hinsawdd i adlewyrchu'r gwaith hyn ac i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi'n gyson â nodau Cytundeb Paris" |
Mae’r Cyngor yn galw ar Gronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro i:
· |
echdynnu tanwyddau ffosil, er mwyn dihatru o berchnogaeth uniongyrchol am ecwiti a bondiau corfforaethol, ynghyd ag unrhyw gronfeydd cymysg, cwmnïau sydd ynghlwm wrth echdynnu tanwyddau ffosil
|
· |
Parhau â’r gwaith o beidio â buddsoddi i gwmniau sydd ynghlwm wrth echdynnu; a
|
· |
ceisio peidio â gweithio gyda chwmnïau felly o fewn cyfnod o bum mlynedd. |