Eitem Agenda

Cynnig 1

Cynigiwyd gan:           Y Cynghorydd John Lancaster

 

Eiliwyd gan:     Y Cynghorydd Thomas Parkhill

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

1)

Bod gan llawer o bobl ifanc ffôn symudol eu hun (gan gynnwys ffonau clyfar) a bod llawer ohonynt yn dewis mynd â nhw i’r ysgol;

 

2)

Mae tystiolaeth bod ffonau symudol yn tarfu ar ddysgu’r plant yn y dosbarth. Dengys un astudiaeth* bod gwahardd ffonau symudol yn y dosbarth wedi gwella perfformiad yn sylweddol mewn arholiadau pwysig a bod y cynnydd o ran cyflawniad wedi’u gyrru gan y disgyblion sy’n perfformio waethaf, gan felly leihau anghydraddoldebau addysgol;

 

3)

Yn Ysgol Uwchradd Llanisien, mae defnyddio ffonau symudol wedi’i wahardd ar eiddo’r ysgol ac o ganlyniad bu gwelliant cyffredinol yn ymddygiad y disgyblion;

 

4)

Mae achosion pan fo angen ffonau symudol ar blant yn yr ysgol, ac mai’r ysgolion eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad.

 

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Weithrediaeth i gyflwyno adroddiad yn trafod manteision ac anfanteision gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion i ddisgyblion hyd at Flwyddyn 11 a chan gynnwys Blwyddyn 11. Dylai'r adroddiad nodi argymhelliad eglur yn gofyn i Gyrff Llywodraethu ystyried hyn yn eu hysgolion. Dylai unrhyw waharddiad o’r fath ategu addysg presennol disgyblion ar ddefnyddio ffonau symudol yn ddiogel ac yn gyfrifol.            

 

*Beland, L & Murphy R: Ill Communication: Technology, Distraction & Student Performance. Ysgol Economeg a Gwyddoniaeth Wleidyddol Llundain, Papur Trafod Canolfan Perfformiad Economaidd 1350 (Mai 2015).