English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynnig 2

Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Bernie Bowen-Thomson 

 

Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Ashley Lister

Fel Llywodraeth Leol a phob gwasanaeth cyhoeddus arall, mae Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef toriadau sylweddol yn eu cyllid dros y degawd diwethaf. Mae tua thraean o grant yr Heddlu, £51m wedi'i dorri ers 2011/12 a rhagwelir toriadau pellach tan 2020/21.

Gwaethygir y broblem ariannu hon gan y realiti bod costau pellach yn codi ar gyfer plismona ein prifddinas.  Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf, gyda dros 18 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, nifer o ddigwyddiadau mawr, cartref Llywodraeth Cymru a phoblogaeth uchel o fyfyrwyr.

 

Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r costau ychwanegol hyn ac nid yw wedi darparu unrhyw arian ychwanegol i ddiwallu'r anghenion hyn.

Fel y nodwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, De Cymru

"Drwy fethu â darparu setliad grant digonol i'r heddlu, mae Llywodraeth y DU wedi symud y baich o ariannu'r heddlu ymlaen i dalwyr y dreth gyngor, gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu lleol i ddod o hyd i'r codiadau anochel sydd eu hangen i ddarparu plismona effeithiol."

Yr effaith ar drigolion yng Nghaerdydd yw cynnydd o 10.3% yn y swm a godir drwy ein treth gyngor i drigolion yng Nghaerdydd, £24 ychwanegol y flwyddyn ar gyfer eiddo band D.

 

Mae'n hanfodol bod Caerdydd yn cael ei chadw'n ddiogel ar gyfer y dyfodol, bod dioddefwyr yn cael cymorth, a bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu hamddiffyn.

 

Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu’r canlynol:

 

·        

Ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i gyfleu’r pwysigrwydd brys i blismona rheng flaen gael ei ariannu'n briodol drwy ateb ariannol hirdymor sy'n gwrthdroi'r toriadau difrifol ac yn rhoi rhyddhad y mae mawr angen amdano i'r Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr

 

·        

Gofyn am i adolygiad o'r fformwla ariannu bresennol gael ei gynnal ar fyrder er mwyn cywiro'r trefniant sy’n amlwg yn ddiffygiol, sy'n gweld Heddlu De Cymru ar hyn o bryd yn cael ei wahardd rhag derbyn Cyllid Prifddinas

 

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.