Rôl y Pwyllgor hwn yw craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant ym mherfformiad y Cyngor o ran cynnig gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol, yn cynnwys:
Polisi Cynllunio Strategol
Polisi Cynaliadwyedd
Polisi Iechyd yr Amgylchedd
Polisi Diogelu’r Cyhoedd
Polisi Trwyddedu
Rheoli Gwastraff
Projectau Gwastraff Strategol
Glanhau Strydoedd
Beicio a Cherdded
Y Strydlun
Partneriaeth Trafnidiaeth Strategol
Polisi a Datblygu Trafnidiaeth
Atebion Trafnidiaeth Deallus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Rheoli Parcio
Asesu effaith partneriaethau gyda, adnoddau a gwasanaethau a gynigir gan sefydliadau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.