English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cylch Gorchwyl

Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 23 Mai 2019, cytunwyd ar y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad:

 

Craffu, monitro ac adolygu gweithrediad cyffredinol Rhaglen Gwella Caerdydd ac effeithiolrwydd gweithredu polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor yn gyffredinol, gan gynnwys:

 

·       Materion Cyfansoddiadol a Rheoli Busnes y Cyngor

·       Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd

·       Datblygu Polisïau Strategol

·       Rhaglenni Strategol

·       Cynllunio Cymunedau a Fforwm Gweledigaeth

·       Cysylltiadau’r Sector Gwirfoddol

·       Cynnwys ac Ymgysylltu â Dinasyddion

·       Cyfathrebu Corfforaethol

·       Gwasanaethau Canolfan Gyswllt a Mynediad at Wasanaethau

·       Polisi Rhyngwladol

·       Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd

·       Cydraddoldeb

·       Grantiau Corfforaethol a Chyllidol

·       Datblygu Sefydliadol

·       Rhaglen Effeithiolrwydd Caerdydd

·       E-Lywodraeth

·       Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

·       Eiddo’r Cyngor

·       Comisiynu a Chaffael

·       Rheoli Carbon

·       Gwasanaethau Cyfreithiol

·       Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Craffu, monitro ac adolygu effeithiolrwydd systemau rheoli a gweinyddu arian y Cyngor a'r defnydd o adnoddau dynol.

 

Asesu effaith ein partneriaethau â sefydliadau allanol, adnoddau a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd Llywodraeth Cymru,  Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol lledadrannol ar effeithioldeb y ffordd mae gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu.

 

Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.