Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 23 Mai 2019, cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl canlynol ar gyfer y Pwyllgor hwn:
Craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant ym mherfformiad y Cyngor o ran cynnig gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
• Cynllun Gwella Ysgolion
• Trefniadaeth Ysgolion
• Gwasanaethau Cymorth yr Ysgol
• Lles Addysg a Chynhwysiant
• Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar
• Anghenion Addysgol Arbennig
• Gwasanaethau Llywodraethwyr
• Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant
• Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
• Gwasanaethau Ieuenctid a Chyfiawnder
• Gwasanaethau Chwarae
Asesu effaith ein partneriaethau â sefydliadau allanol, adnoddau a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus dan Nawdd Llywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor y Cylch Gorchwyl fel y cytunwyd arno gan y Cyngor yn ei gyfarfod blynyddol ar 23 Mai 2019:
I graffu, mesur a mynd ati i hyrwyddo gwelliant ym mherfformiad y Cyngor o ran darparu gwasanaethau a chydymffurfiaeth â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
• Gwella ysgolion
• Trefniadaeth ysgolion
• Gwasanaethau cymorth ysgol
• Lles a chynhwysiant addysg
• Datblygiad y blynyddoedd cynnar
• Anghenion addysgol arbennig
• Gwasanaethau llywodraethwyr
• Gwasanaethau cymdeithasol plant
• Partneriaeth plant a phobl ifanc
• Gwasanaethau ieuenctid a chyfiawnder
• Gwasanaethau chwarae
I asesu effaith partneriaethau gydag adnoddau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau Llywodraeth Leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar effeithiolrwydd y broses o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.
Cyflwyno adroddiad i gyfarfod priodol o'r Cabinet neu'r Cyngor ar ei ganfyddiadau a gwneud argymhellion ar fesurau a allai wella perfformiad neu ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y maes hwn.