I dderbyn briff llafar ar y cynnig.
Cofnodion:
Ailadroddodd y Cynghorwyr Bridgeman a Joyce eu diddordeb personol yn yr eitem hon ar y sail eu bod yn Gynghorwyr Ward lleol.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Michele Duddridge Hossain (Rheolwr Gweithredu Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a oedd yn amlinellu'r cysylltiad rhwng ysgolion yn yr ardal; er y bu ymgynghori o'r blaen ynghylch cau Ysgol Gynradd Glan-yr-afon, penderfynwyd bellach y byddai nifer y disgyblion yn gostwng yn hytrach na chau'r ysgol yn gyfan gwbl. Y bwriad yw adleoli Ysgol Gynradd Llaneirwg ar safle Sant Edeyrn a'i ehangu i fynediad un dosbarth yn hytrach na hanner fel y mae ar hyn o bryd. Gan y bydd wedi ei leoli o fewn y datblygiad tai newydd, bydd yna gyfraniad Adran 106.
Cafodd aelodau'r Pwyllgor sesiwn friffio gan y Cyfarwyddwr. Rhagwelir y bydd Ffederasiwn posibl rhwng Ysgol Gynradd Glan-yr-afon ac ysgol arall, er nad yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Y bwriad yw datblygu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd ar safle Glan-yr-afon; mae Dechrau'n Deg wedi'u lleoli yno ar hyn o bryd. Un o'r rhwystrau posibl i hynny yw'r ffaith na ellir defnyddio rhan o'r adeilad oherwydd arllwysiad olew tanddaearol sydd wedi dod i'r amlwg y bydd angen ei ystyried a'i fuddsoddi rywfaint yn y dyfodol.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
|
Holodd yr Aelodau am y cynnydd i gael mynediad un dosbarth ac a oes galw am hynny ac fe'u cynghorwyd y disgwylir iddi fod yn llawn ymhen amser, ar hyn o bryd nid yw'r datblygiad tai wedi'i gwblhau. Bydd yr ysgol yn cael ei symud yn ôl i'w hardal ddynodedig, a thros amser bydd yr ardal y mae'r disgyblion yn mynychu ohoni yn newid. Er mai dim ond mynediad un dosbarth fydd ar gael i ddechrau, bydd yr ysgol yn cael ei dylunio gyda'r nod o'i galluogi i gynnwys dau. |
CYTUNWYD: Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: