Eitem Agenda

Cynllun Corfforaethol Drafft 2019-2022 a Chynigion Drafft ar gyfer Cyllideb 2019-2020

Cynnal gwaith craffu cyn penderfyniad ar Gynllun Corfforaethol Drafft 2019-2022 a Chynigion Cyllideb Drafft 2019-2022 cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y cafodd cynigion y gyllideb eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn y Cyngor ar 15 Tachwedd 2018, ac y byddant yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod busnes ar 21 Chwefror 2019, cyn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2019.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddent yn cael braslun o'r sefyllfa gyllidebol gyffredinol ac yna gynigion y gyllideb a fydd yn cael eu hystyried mewn dwy ran; yr elfen Gwasanaethau Plant; yr elfen Addysg ynghyd â Chludiant i'r Ysgol.

 

Trosolwg Corfforaethol

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Weaver (Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad), Christine Salter (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau) ac Allan Evans (Rheolwr Gweithredol, Cyllid) i'r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Weaver mai £32.4m oedd y bwlch yn y gyllideb.  Er y bydd cynnydd o 4.9% yn y dreth gyngor yn codi £6.7m ni all bontio'r bwlch yn y gyllideb.  Ar y cyfan, arbedion y gyfarwyddiaeth yw'r rheini y cynhaliwyd ymgynghoriad arnynt yn yr Hydref.  Er mai Caerdydd a gafodd y setliad terfynol mwyaf gan Lywodraeth Cymru, mewn termau real, mae'n doriad o 9%.  Bydd yn rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i werth £105 miliwn o arbedion pellach yn ystod y 4 blynedd nesaf. 

 

Cafodd Aelodau'r pwyllgor drosolwg o'r cynigion ar gyfer y gyllideb gan Christine Salter, pan amlinellodd wybodaeth am y canlynol:

 

·          

Setliad Terfynol;

·          

Ymgynghorydd;

·          

Cyllideb Refeniw Ddrafft;

·          

Rhagolygon Tymor Canolig; a

·          

Rhaglen Gyfalaf Ddrafft

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·          

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at raglen Dewis Digidol a chwestiynu a oedd lefel yr arbedion y cyfeiriwyd atynt yn y gyllideb flaenorol wedi'u cyflawni.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad yw wedi bod mor hawdd ei gyrraedd na nodi'r arbedion a ragwelwyd ar y dechrau.  Cyflwynwyd App a chynorthwy-ydd rhithwir y cyngor sydd wedi arwain at rai arbedion gweladwy o fewn yr arbedion adnoddau.  Rhagwelir y bydd defnyddio'r gwasanaeth hwnnw ynghyd â'r Bot Sgwrsio Dwyieithog yn annog aelodau o'r cyhoedd i hunan-wasanaethu ymhellach. Gobeithir y bydd technoleg, sy'n galluogi pobl o fewn y maes gofal cymdeithasol, hefyd yn ychwanegu at y gallu i sicrhau arbedion.   

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch canran yr arbedion sy'n cael eu priodoli i’r Dewis Digidol ac fe'u cynghorwyd ei bod yn anodd canfod i ba raddau y mae barn yn cael ei chymryd ledled y Deyrnas Unedig.  Mae'n bwysig ceisio olrhain yr arbedion a sicrhau bod gennych linell sylfaen.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod £7.7 miliwn o'r £19.15 miliwn o arbedion wedi'i nodi fel prosesau busnes a bod hyn yn cynnwys prosesau digidol.

 

·          

Nododd yr Aelodau nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ond derbyniodd yr Aelod Cabinet, er y bu rhywfaint o newid yn y broses ymgynghori a oedd yn cynnwys pobl ifanc, fod lle i wella o hyd. 

 

·          

Holodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cael barn y cyhoedd mewn perthynas â'u blaenoriaethau yn hytrach nag arbedion a gwariant wrth ymgynghori ar y gyllideb.  Derbyniwyd y byddai hynny'n syniad da ac wedi'i wneud mewn blynyddoedd blaenorol.   

 

·          

Nododd yr Aelodau'r bwlch yn y gyllideb o £104 miliwn y cyfeirir ato yn y cynllun ariannol Tymor Canolig dros y 4 blynedd nesaf a gofynnwyd am eglurhad ynghylch beth sy'n cael ei wneud yn awr i geisio sicrhau bod y bwlch yn cael ei gadw mor isel â phosibl.  Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad yw swm yr arbedion sydd eu hangen yn rhywbeth newydd.  Mae swyddogion yn parhau i wneud eu gorau i sicrhau bod Cyfarwyddiaethau yn barod i wneud yr arbedion angenrheidiol drwy geisio eu helpu a'u harwain, er enghraifft, drwy wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol, lleihau'r ddibyniaeth ar asedau, dadansoddi incwm fel ffioedd a thaliadau , ac ystyried lefel y cymorthdaliadau.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant)

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Claire Marchant (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) a Nick Blake i'r cyfarfod. Arhosodd Christine Salter (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau) ac Allan Evans (Rheolwr Gweithredol, Cyllid) ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Hinchey i wneud datganiad yn amlinellu'r angen i gysoni'r Cynllun Corfforaethol â'r Rhaglen Uchelgais Prifddinas.  

 

Rhoddwyd cyflwyniad i Aelodau'r Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr a oedd yn amlinellu Camau a Mesurau Perfformiad y Cynllun Corfforaethol fel yr oeddent yn ymwneud â Gwasanaethau Plant, ynghyd â'r cynigion ar gyfer arbedion a gwybodaeth mewn perthynas â nifer o ceisiadau am bwysau ariannol. 

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·          

Cwestiynodd yr Aelodau nifer y mesurau perfformiad lle cyfeirir at y targed fel dim targed, a gofynnwyd a yw'r targedau hyn yn cael eu meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill.   Dywedwyd wrth yr Aelodau bod meincnodi yn digwydd gan bob awdurdod.   Mae nifer o ffactorau allanol a fyddai'n effeithio ar y targed, er enghraifft y farnwriaeth wrth benderfynu pa orchmynion i'w gwneud. Mewn perthynas â gorchmynion preswyl, mae'r ffigwr yn amrywio ac mae niferoedd bach iawn yn cael effaith enfawr o ran cyllideb.  Mae'n bwysig sicrhau bod y plant cywir yn y lleoliad cywir a’u bod yno ond am gyhyd ag y bo angen.

 

 

Holodd yr Aelodau am yr anawsterau parhaus o ran tâl yr asiantaeth a'r Cyngor.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod costau gweithwyr asiantaeth wedi cynyddu, a phwysleisiwyd pwysigrwydd ceisio denu staff parhaol ac efallai, yn bwysicach fyth, i edrych ar gymysgedd sgiliau'r staff parhaol hynny.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â'r ffigwr targed o 18% mewn perthynas â swyddi gwag gwaith cymdeithasol Gwasanaethau Planti ac a oedd y targed hwnnw'n realistig, o gofio mai 30% ydyw ar hyn o bryd.  Hysbysodd yr Aelod Cabinet yr Aelodau fod cyfarfod wedi'i drefnu â Julie Morgan, Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.  Mae recriwtio staff yn y maes hwn yn anodd, gall y llwyth achosion uchel fod yn anfantais.  Mae ychydig o newid o fewn ardal Caerdydd, yn rhannol oherwydd natur y gwaith achos.  Mae'n bwysig ceisio cadw staff.  Mae angen meincnod ar draws awdurdodau fel bod staff yn llai tueddol o symud ar draws y ffiniau.  Mae hefyd yn bwysig ystyried strwythur a chymysgedd y staff.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n werth buddsoddi mewn hysbysebion wedi'u targedu i'w wneud yn fwy deniadol ac fe'u cynghorwyd bod swydd swyddog marchnata wedi'i chreu o fewn ailfodelu'r gwasanaeth maethu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y gwasanaeth mabwysiadu, a'r nod yw cael plant i leoliadau parhaol. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch a fu ymgynghori mewn perthynas â'r bil cosb resymol ac a fydd gweithredu bil o'r fath yn cael effaith negyddol ar dueddiadau cyfredol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod ymgynghori wedi bod.

 

·          

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl, yr ariannu trawsnewidiol, a holwyd hefyd a yw'r ceisiadau o dan bwysau yn cyd-fynd â phartneriaid a sefydliadau eraill.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwaith partneriaeth da yng Nghaerdydd - mae Heddlu De Cymru, Addysg ac Iechyd i gyd am fod yn rhan o'r weledigaeth yr ydym yn ei chyflwyno; mae'r sylwadau gan bartneriaid wedi bod yn galonogol a bydd yn hwb i bawb.

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am strategaeth y gweithlu ac fe'u cynghorwyd bod strategaeth recriwtio a chadw yn cael ei gweithredu, ynghyd â chynllun newydd ar gyfer y gweithle. 

 

Addysg

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Neil Hardee (Pennaeth Adnoddau a Gwasanaethau Perfformio) i’r cyfarfod. Arhosodd Christine Salter (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau) a Rob Green (Rheolwr Gweithredol, Cyllid) ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad sy'n nodi bod arian ychwanegol yn dal i gael ei ddarparu i ysgolion mewn cyfnod o galedi.  Er y derbynnir nad yw'r holl bwysau ar gyllideb yr ysgol yn cael eu bodloni, yr uchelgais yw parhau i gyflawni ar gyfer pob plentyn yn y ddinas yng ngoleuni'r Cynllun Corfforaethol, adeiladu Dinas sy’n Dda i Blant a'r rhaglen buddsoddi mewn ysgolion ym Mand B.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i Aelodau'r Pwyllgor yn nodi'r amcanion amrywiol sydd yn y cynllun corfforaethol a'r cynigion ar gyfer y gyllideb wrth symud ymlaen. 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am gyllid Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn dilyn y disgybl.  Mewn theori os bydd mwy o gyfrifoldeb ar yr ysgol rhagwelir y bydd y niferoedd yn gostwng.  Cynghorodd y swyddogion fod plant yn mynd yn Addysg Heblaw yn yr Ysgol am nifer o resymau.  Tra eu bod ar gofrestr yr ysgol maent yn cael cyllid a gellir adennill cyllid.  Ar hyn o bryd mae bwlch yn y cyllid sydd wedi arwain at orwariant yn y gyllideb ganolog. Fodd bynnag, os bydd y cais oherwydd pwysau o £500 mil yn llwyddiannus, gallai lenwi'r bwlch a darparu rhywfaint o amser ychwanegol.  Ar hyn o bryd, mae gwaith dwys o ddarparu gwasanaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn parhau gan gynnwys Caerdydd ac awdurdodau eraill.  Bydd yn edrych ar y gwahanol fathau o ddarpariaeth a chamau gweithredu a fydd yn golygu bod modd rheoli cyllidebau a darpariaeth yn fwy effeithlon.  Mae'n bwysig bod ysgolion yn cydnabod bod ganddynt gyfrifoldeb tuag at y plant hynny - mae angen ailosod y berthynas ag ysgolion a herio a ydynt wedi gwneud digon, fel y mae ysgolion eraill wedi'i wneud.

 

·          

Cyfeiriodd Aelodau at wasanaethau a fasnachwyd gan ADY a holwyd, gan ein bod yn disgwyl i ysgolion newid, a fydd arian a drosglwyddir i ysgolion ar y naill law wedyn yn cael ei gymryd ymaith gan y lleill.  Dywedodd swyddogion fod gan Gaerdydd Gytundebau Lefel Gwasanaeth Ysgol penodol a'u bod wedi gallu cadw ystod eang o ddarpariaeth arbenigol nad oedd awdurdodau eraill wedi gallu ei gwneud. 

 

Mae Caerdydd mewn sefyllfa dda ar hyn o bryd, bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn newid set meddwl ysgolion, rhanddeiliaid eraill, rhieni a theuluoedd.  Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu ffigyrau, rhagwelir y bydd cyllid ar gael ar gyfer hyfforddiant.  Bydd cyfleoedd i Gaerdydd ddarparu hyfforddiant, credir y bydd ysgolion ar wahân i ardal Caerdydd yn prynu'r hyfforddiant yn ôl. 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyllid grant ychwanegol yn talu am y gorwario a ragwelwyd neu a fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau cerddoriaeth. Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i unioni'r cydbwysedd, ond mae prosiectau newydd posibl yn cael eu hystyried.  Atgoffwyd yr Aelodau bod yr awdurdod wedi rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaeth cerddoriaeth uniongyrchol rai blynyddoedd yn ôl, a'u bod yn dibynnu ar ysgolion i brynu'n ôl.  

 

 

Cludiant Ysgol

 

Croesawodd y Cadeirydd Steve Gerrard (Arweinydd Tîm Gweithrediadau Rhwydwaith) i’r cyfarfod. Arhosodd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Christine Salter (Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau) a Rob Green (Rheolwr Gweithredol, Cyllid) yn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i Aelodau'r Pwyllgor.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod: 

 

·          

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y cynnig i arbed £400 mil ar gyfer optimeiddio llwybrau a chynghorwyd bod arbedion eisoes o £240 mil, sy'n gadael £160 mil i drafod. 

 

·          

Trafododd yr Aelodau Lwfansau Cymorth i Drafnidiaeth (LCD), a dywedwyd wrthynt fod rhieni 24 o ddisgyblion sy'n mynychu T? Glas/T? Gwynne ar hyn o bryd yn elwa o gyflwyno'r LCD, ac nad oes unrhyw wariant ychwanegol.

·          

Cafodd yr Aelodau wybod bod Ansawdd yr Aer ar lwybrau ysgolion yn cael ei ystyried, er bod hynny gan dîm arall.

 

·          

Holodd yr Aelodau am y system ddilysu ar gyfer darparu taliadau am gludiant.  Dywedodd y swyddog y caiff y ddarpariaeth drafnidiaeth ei hadolygu fesul achos.  Mae cyfraddau gwahanol yn gweithredu mewn perthynas â gwahanol ysgolion, mae negodi'n digwydd gyda rhieni mewn perthynas â'r daith ac anghenion y disgybl.  Yn dilyn hynny, caiff hawliadau eu cyflwyno bob mis a'u talu bob tymor.

 

·          

Trafododd yr Aelodau sut i optimeiddio llwybrau ac fe'u cynghorwyd y bydd y llwybrau hynny'n ystyried adeiladu tai yn y dyfodol.  Nododd yr Aelodau yr ymgynghorwyd â'r rhieni a'r ysgolion.  Y nod oedd ceisio cyflawni cyn lleied o daith â phosibl.  

 

CYTUNWYD:  Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: