Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig

I ystyried y Hysbysiad Cynnig canlynol a gyflwynwyd yn ôl Rheol 4 (b) a (c) Gweithdrefn Cyfarfod y Cyngor ar 4 Chwefror 2019.

 

Cynigiwyd gan:        Y Cynghorydd Joel Williams

 

Eiliwyd gan:              Y Cynghorydd

 

Mae Bws Caerdydd yn is-gorff y mae Cyngor Caerdydd yn berchen arno ac felly Trethdalwyr Caerdydd sy’n berchen arno ac fel Cyngor mae dyletswydd arnom i sicrhau bod Bwrdd Bws Caerdydd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddelio gyda heriau busnes yn y presennol ac yn y dyfodol.


 Ar hyn o bryd mae Bwrdd Bws Caerdydd yn cynnwys 11 Cyfarwyddwr ac mae hefyd Ysgrifennydd Cwmni; mae pump ohonynt yn Gynghorwyr Sirol Anweithredol sydd wedi’u penodi gan y Cyngor Llawn.


Ym mis Tachwedd 2018 cytunodd y Cyngor Llawn yn ffurfiol i newid nifer y Cynghorwyr Sirol o saith i bump i alluogi penodi dau unigolyn annibynnol ar sail eu sgiliau a phrofiad proffesiynol ym meysydd fel rheoli ariannol a chyffredinol; llywodraethu corfforaethol; a pholisi a/neu reoli trafnidiaeth.


Er mwyn sicrhau bod gan Fws Caerdydd yr hyn sydd ei angen i ddelio gyda heriau busnes yn y presennol a’r dyfodol mae’r Cyngor yn cynnig y canlynol yn ffurfiol:

 

·           Cynigir lleihau nifer y Cynghorwyr sy’n cael eu penodi’n Gyfarwyddwyr Anweithredol o bump i un er mwyn penodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol ychwanegol nad ydynt yn Aelodau Etholedig y Cyngor nac yn cyflogeion i’r Cyngor na’r Cwmni.

 

Yn unol ag arfer da o ran llywodraethu corfforaethol, byddai’r cynnig i benodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol ychwanegol yn ategu arbenigedd aelodau’r Bwrdd, gan greu herio deongliadol a dwyn rheolwyr i gyfrif.

 

·           Cynigir felly fod y Cyngor, fel y rhan ddeiliad, yn ysgrifennu’n ffurfiol i’r Cwmni gan roi gwybod iddo am y newidiadau arfaethedig i’r Erthyglau, y gall y Cwmni eu hystyried yn ffurfiol wedyn yn unol â phroses wneud penderfyniadau’r Cwmni.

Fel yr unig ran ddeiliad, gall y Cyngor ofyn bod newid o’r fath yn cael ei wneud i’r Erthyglau.

Ni fyddai’r ddarpariaeth hon yn rhwystro gallu unrhyw Gyngor yn y dyfodol rhag penodi hyd at saith Cynghorydd fel Cyfarwyddwyr Anweithredol pe bai am wneud hynny. Rhaid i’r flaenoriaeth ar yr adeg hon fod ar benodi Cyfarwyddwyr Anweithredol ar sail eu sgiliau a phrofiad proffesiynol yn unig ond teimlir y dylai fod un Cynghorydd Sirol o hyd.