English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Adroddiad Ymchwilio Estyn - Ysgol Gynradd Gatholig Pedr Sant

Cynnal adolygiad perfformiad a chraffu ar fonitro yr argymhellion a’r sylwadau a nodwyd yn yr adroddiad archwilio.

 

Cofnodion:

Ail-datganodd Patricia Arlotte ddiddordeb rhagfarn o ran yr eitem hon a gadael y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Catherine Rowlands (Uwch Ymgynghorydd Her) i’r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod wedi defnyddio ei bwerau ac o ganlyniad, mae'r ysgol mewn mesurau arbennig. Rhoddwyd ystyriaeth i’r mesurau hynny a fyddai’n cynorthwyo’r ysgol i ddychwelyd i sefyllfa mor sicr â phosibl.   Cynhaliwyd ymgynghoriad â’r Corff Llywodraethu a’r Esgobaeth gan mai ysgol wirfoddol a gynorthwyir yw hon; caiff y ddirprwyaeth ei thynnu’n ôl; bydd yn ofynnol i’r ysgol greu partneriaeth gydag Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd sy'n ysgol a all gynnig cyngor da ar agweddau na chawsant eu gwella dros y blynyddoedd, a chaiff 3 Llywodraethwr newydd eu penodi.  Nododd Aelodau fod y Corff Llywodraethu a’r Esgobaeth wedi cytuno.   

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Dywedodd CR wrth Aelodau mai cyfrifoldeb yr ysgol oedd creu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.   Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cael monitro cadarn ar y cynllun hwnnw.  Mae Gr?p Gwella Llywodraeth hefyd ar waith, a bydd yr Ymgynghorydd Her yn ymweld â’r ysgol 6 gwaith y flwyddyn i werthuso’r broses fonitro.  Mae’n bwysig hefyd cynnal cyfathrebu da gyda rhieni.

 

  •  

Mae’r Cadeirydd, ar ran Aelod o’r cyhoedd wedi gofyn am wybodaeth pam y caniateir i'r Pennaeth presennol aros yn ei swydd o ystyried methiant yr ysgol wrth weithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr mai rôl y Corff Llywodraethu yw dwyn y Pennaeth i gyfrif.  Yr hyn a wnaed erbyn hyn yw rhoi mesur sicrwydd i wneud yn si?r bod y Corff Llywodraethu yn cyflawni ei swyddogaeth cefnogi a herio ac yn dwyn yr arweinyddiaeth i gyfrif.   Diben y camau gweithredu yn rhoi rhyw raddau o sicrwydd i rieni.  Mae’r Cyfarwyddwr yn credu bod rhieni wedi eu cynnwys yn y broses o roi’r ysgol mewn mesurau arbennig, Cyhoeddwyd yr Adroddiad Estyn ar 10 Rhagfyr ac mae'r wasg wedi adrodd ar hyn. 

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a drafodwyd yn rhan o’r ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.