English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

CTY 21ain Ganrif (Band B) - Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan

(I ddilyn)

 

Ymgymryd â chraffu cyn-penderfyniad ac adolygiad polisi ar yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Janine Nightingale (Pennaeth Trefniadaeth, Mynediad a Chynllunio Ysgolion) i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad y cadarnhaodd hi ynddo fod mwyafrif yr ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr yr ymrwymiad i weithio ar  y cyd gydag ystod eang o bartneriaid a soniodd am y Bartneriaeth Addysg Greadigol sydd wedi ei sefydlu gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a’r berthynas rhwng Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a’r Fro.  Bydd cyfleusterau chwaraeon yr ysgol newydd ar gael i’w defnyddio gan y gymuned fel mewn ysgolion eraill.   

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, gofyn am eglurhad neu godi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  •  

Holodd Aelodau faint y chweched dosbarth yn yr ysgol newydd, a dywedwyd wrthynt nad oedd yn bosibl darparu’r wybodaeth ar adeg y cyfarfod, ond bydd Fitzalan yn ysgol 11-18 oed.    Nodwyd bod pwysau gwirioneddol ar hyn o bryd ar ariannu addysg ôl-16.

 

  •  

Pwysleisiodd Aelodau bwysigrwydd mynediad ysgolion cynradd i’r cyfleusterau, a chawsant wybod bod giât arbennig yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain a ddefnyddir gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Trowbridge.  Mae’n bwysig y defnyddir y cyfleusterau yn y ffordd orau bosibl.

 

  •  

Gofynnodd Aelodau am weithio mewn partneriaethau a pha fath o bartneriaethau a gaiff eu cynnwys yn yr ysgol newydd. Ymatebwyd iddynt fod cysylltiadau cryf eisoes wedi eu datblygu, er enghraifft llu cadetiaid cyfun; a hefyd y cysylltiadau cryf gyda busnesau drwy'r cyrsiau a ddarperir yn yr ysgol.  Roedd Swyddogion hefyd yn ystyried datblygu chwaraeon yn y rhan honno o’r ddinas, ond hefyd nad oeddent yn bwriadu gorfodi'r ysgol mewn mowld parod.  Mae’n bwysig peidio â gorfodi ond yn hytrach i annog.

 

 

Dywedwyd hefyd wrth Aelodau fod y defnydd ar y cyd o gyfleusterau yn yr ardal yn cael ei drafod ond nid yw wedi cael ei bennu eto.

 

  •  

Nododd Aelodau y bydd y newidiadau yn yr ysgol yn aruthrol, ond roeddent yn dymuno egluro sut y gall strwythur yr adeilad gyfrannu at les y disgyblion.  Dywedodd Swyddogion mai’r bobl ifanc eu hunain oedd un o’r grwpiau a gyfrannodd at yr ymarfer ymgynghori a bod eu barn ar ddyluniad yr adeilad a sut y’i defnyddir wedi ei chynnwys yn y dyluniad.   Mae disgyblion hefyd wedi cyfrannu at y llwybrau beicio a mannau croesi, sy’n ystyried y llwybrau cerdded i'r ysgol a ddymunir.

 

  •  

Holodd Aelodau hefyd p’un a fydd asesiad penodol o lygredd aer naill ai yn yr ysgol neu ar hyd y llwybr i'r ysgol.   Cadarnhaodd Swyddogion y mae asesiad manwl o drafnidiaeth wedi’i gynnal, bydd nifer y plant yn aros yr un, dim ond y safle sydd wedi ei newid ychydig.   Derbynnir bod yr ardal yn brysur gyda’r cae pêl-droed a’r ysgol.  Mae llygredd ac ansawdd aer yn pennu pa fath o unedau cyfnewid aer a gwres sy’n cael eu rhoi yn yr ysgol. Nodwyd hefyd fod yr acwsteg yn bwysig ac mae’r s?n a’r traffig yn cael eu monitro.  Dywedwyd wrth Aelodau hefyd y bydd angen cynnal unrhyw weithgareddau dysgu yn yr awyr agored y tu ôl i adeilad yr ysgol i’w ddefnyddio fel byffer s?n.

 

  •  

Nododd Aelodau fod lleoedd ar gael yn yr ysgol dair blynedd yn ôl, ond erbyn heddiw mae llawer mwy o geisiadau am leoedd nag ag y gellir eu cynnig, a bydd pwysau cynyddol ar leoedd yn yr ysgol yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, dyma resymeg y buddsoddiad Band B.

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd y dull o baru cyflenwad yn wahanol am leoedd ysgol, fodd bynnag mae ysgolion gwell, ac er bod dalgylchoedd yn chwarae rhan yn y system meini prawf, nid ydynt yn gwarantu lle yn yr ysgol.  Mae’n rhaid cael system meini prawf agored.  Mae angen i ysgolion fod yn yr ardal iawn.  

 

 

Nodwyd mai’r peth pwysig oedd bod pob ysgol yn darparu yr hyn sydd ei eisiau ar gyfer ein plant, ac nid i ysgolion penodol gynyddu oherwydd dewis y rhieni.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau a thrafodwyd y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.